Dyma erthygl oddi ar wefan golwg360 ar ddiwrnod yr Etholiad Cyffredinol eleni. Ar ôl i chi ddarllen yr erthygl, edrychwch ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol yr enwogion isod.
Adele (Llun: Matt Sayles/Invision/AP)
Mae enwogion y byd chwaraeon, cerddoriaeth, teledu a ffilm wedi bod yn annog pobl i ddefnyddio’u pleidlais yn yr etholiad heddiw.
Eisoes heddiw mae Adele, Holly Willoughby ac Andy Murray wedi bod yn annog eu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i “ddefnyddio eich llais”.
Neges syml a drydarodd Adele ar Twitter, sef “pleidleisiwch x”, ac mae cantorion eraill fel Paloma Faith, Dua Lipa a Zara Larsson wedi bod yn trydar negeseuon tebyg.
Dywedodd y gyflwynwraig deledu Holly Willoughby ar Instagram: “Bore da … yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, cofiwch bleidleisio heddiw!”
Yn yr un modd, mae Andy Murray, sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn y bencampwriaeth tenis agored yn Ffrainc, wedi dweud ar Instagram: “Mae’n amser mynd i ddefnyddio eich hawl i bleidleisio heddiw! Mae’n cŵl i bleidleisio ac i boeni am ddyfodol eich gwlad.”
Dyma sawl "like" a gafodd negeseuon Adele, Holly Willoughby ac Andy Murray ar eu cyfrifon Instagram:
Adele: | 293,910 |
Holly Willoughby: | 37,340 |
Andy Murray: | 33,658 |
Dyma luniau o broffiliau Instagram yr enwogion: