Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasu ar y we yn digwydd dros apiau ar ein ffonau neu dabledi y dyddiau yma, ond pa ap yw ffefryn y criw yma? Darllenwch y sgwrs!

   
Eleri: Fi’n meddwl bod Instagram yn berffaith. Fi’n caru tynnu lluniau, ac mae’r filters yn gwneud i fy lluniau edrych yn anhygoel. A ti’n cael ysgrifennu faint ti moyn, does dim cyfyngiad o ran sawl gair ti’n ddefnyddio.
Dan: Ia, ond mae hynna’n wir am Facebook hefyd. Ti’n gallu rhannu a ’sgwennu neges hir – yn union fel Instagram. Ond mae Facebook yn well achos ti’n gallu rhannu lot mwy na dim ond lluniau. Ti’n gallu rhannu gwefannau, erthyglau, fideos. Ti’n gallu gwahodd pobl i barti, ti’n gallu anfon neges breifat, ti’n gallu gwneud tudalen i hyrwyddo rhywbeth, ti’n gallu gwneud llwyth o bethau ar Facebook.
Eleri: Ond mae hynny’n gallu bod yn wendid. Gormod yn mynd ymlaen. Ti’n gallu gwneud mwy na dim ond lluniau ar Instagram hefyd… fel y boomerang – mae hwnna’n hwyl. Ond mae Instagram yn llawer symlach na Facebook.
Jess: Dw i’n cytuno. Mae Facebook yn gallu mynd yn ormod, ond dwyt ti ddim yn cael cymaint o amrywiaeth o newyddion, dolenni, erthyglau ac yn y blaen ar Instagram. Dyna pam mai fy ffefryn i yw Twitter. Mae o’n syml achos mae negeseuon pawb mor fyr a ti’n gallu sgrolio heibio’r rhai dwyt ti ddim eisiau eu darllen a chlicio ar y rhai sy’n apelio atat ti. Ac mae Twitter fel arfer ar flaen y gad os oes rhywbeth yn digwydd yn y byd. Ti’n siwr o gael gwybod ar Twitter cyn unrhyw le arall.
Dan: Iawn… dw i’n deall bod Facebook yn gallu bod yn brysur. Ond be’ sy’n dda amdano ydy mae o’n gwybod be ti’n hoffi. Er enghraifft, dw i’n hoffi gwylio fideos o rasio beics lawr mynydd, mae Facebook yn gallu dweud ’mod i’n gwylio llwyth o fideos fel yna felly mae popeth sydd ar fy ffrwd newyddion yn bethau maen nhw’n meddwl y baswn i’n hoffi eu gweld.
Eleri: Ti ddim yn meddwl fod hynny ychydig yn creepy? Maen nhw hefyd yn anelu hysbysebion fel’na atat ti; ceisio gwerthu stwff beics, neu ddigwyddiadau beicio i ti.
Dan: Be ydy’r ots? Mae’n dda. Wnes i weld hysbyseb am ddigwyddiad beicio yng Ngogledd Cymru ar Facebook, es i… roedd o’n anhygoel.
Jess: Dw i’n meddwl mai’r hyn mae Eleri’n trio’i ddweud yw bod Facebook yn gallu dylanwadu ar y ffordd ti’n meddwl heb i ti wybod. Eisiau dy arian di maen nhw yn y pen draw.
Dan: Mae’n siwr fod hynny’n wir o ran hysbysebion ym mhob man.
Eleri: Ie, ti’n iawn, siwr o fod. Mae ’na hysbysebion ar Instagram a Snapchat nawr.
Jess: Dw i’n meddwl dy fod ti’n gallu gwneud rhywbeth i Settings ti i gael llai o hysbysebion sydd wedi eu hanelu atat ti. Ond eto, mae’n dod ’nôl at amrywiaeth i fi. Ocê, mae’n dda gweld mwy o bethau tebyg i beth ti’n hoffi, ond mae’r we mor enfawr, mae’n braf gallu anturio weithiau a darganfod pethau newydd – dyna pam dw i’n dilyn pob math o bobl a sefydliadau ar Twitter.
Dan: Dw i ddim yn hoffi Twitter, mae’n symud yn rhy gyflym i fi. Os ti’n trydar rhywbeth dy hun, mae o wedi mynd ar goll yng nghanol miloedd o negeseuon eraill. Dw i’n cael lot mwy o ymateb ar Facebook, mae fel bod popeth yn arafach, tydy pobl ddim yn ysgrifennu mwy nag un neu ddwy neges statws y dydd. Mae pobl yn trydar drwy’r dydd bron iawn!
Eleri: Iawn, felly Dan, ti’n bendant yn hoffi Facebook yn fwy na’r lleill …
Dan: 100%!
Eleri: Dw i dal yn hoff iawn o Instagram, ond dw i’n meddwl efallai wna i ddechrau defnyddio mwy ar Twitter – fel ti’n dweud Jess, ’falle wna i ddarganfod pethau newydd.
Jess: Y peth yw, dw i’n defnyddio’r tri … efallai mwy o Twitter … ond dw i am edrych ar osodiadau preifatrwydd fy mhroffil Facebook o ran hysbysebion.