Darllenwch y testun hwn sy’n sôn am waith “gwahanol”. Mae teitl y swydd ar goll, ond beth yw’r swydd yn eich barn chi?
...........................................................................................................
£25,000 y flwyddyn (+ treuliau)
Dyma’r swydd i’r rhai ohonoch chi sy’n mwynhau dŵr, gweithio tu allan a chael hwyl.
Y gwaith
Byddwch chi’n gweithio i gwmni gwyliau rhyngwladol, yn teithio o gwmpas gwledydd o gwmpas Môr y Canoldir ac yn ymweld â gwestai a gwersylloedd gwyliau’r cwmni. Yno, byddwch chi’n gwirio bod y sleidiau dŵr yn hwyl ac yn ddiogel. I wneud hyn, bydd angen i chi fynd ar y sleidiau dŵr dro ar ôl tro i weld faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob reid, pa mor gyflym byddwch chi’n teithio i lawr y sleidiau a pha mor ddiogel ydyn nhw. Yn ogystal, bydd angen i chi ysgrifennu adroddiad ar eich canfyddiadau, yn enwedig os byddwch chi’n canfod unrhyw beryglon, a chyfarfod â staff hamdden y gwersylloedd / gwestai.
Manteision
Mae’r swydd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer teithio, gweld y byd, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl a sbri yn eich gwaith.
Anfanteision
Byddwch chi’n treulio oriau lawer mewn meysydd awyr (yn enwedig os yw’r awyrennau’n hwyr) ac yn hedfan o le i le. Yn ogystal, gall y swydd fod yn ddiflas mewn tywydd oer a gwlyb.
Priodoleddau
Mae’r gallu i ddod ymlaen yn dda gyda phobl eraill yn hanfodol. Mae angen bod yn heini, yn fentrus ac yn ddi-ofn a rhaid, wrth gwrs, mwynhau mynd i lawr sleidiau dŵr!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dro ar ôl tro | droeon, drosodd a throsodd | time and time again |
canfyddiadau | yr hyn y byddwch chi'n ei ganfod | findings |
hanfodol | rhywbeth mae'n rhaid ei gael | essential |