Gwaith gwahanol (3)

Rhifyn 50 - Rhyfedd o fyd
Gwaith gwahanol (3)

Darllenwch y testun hwn sy’n sôn am waith “gwahanol”. Mae teitl y swydd ar goll, ond beth yw’r swydd yn eich barn chi?

…………………………………………………………………

(£20 yr awr)

Os ydych chi’n berson amyneddgar ac os oes gennych chi draed da a chefn cryf, dyma’r swydd i chi – yn enwedig os ydych chi’n hapus i aros … aros … ac aros am rywbeth. Gorau oll os ydych chi’n berson cyfeillgar, cymdeithasol, oherwydd gall siarad â’r person sy’n sefyll wrth eich ochr chi helpu i leihau’r diflastod (weithiau!).

Y gwaith

  • Sefyll (weithiau eistedd a gorwedd hefyd – yn dibynnu ar ba mor hir mae rhaid i chi aros!)

ac

  • Aros … aros … aros (am oriau … neu ddyddiau o bosib!)

Y dyddiau hyn, gyda nifer cynyddol o gwmnïau’n cynnal digwyddiadau anhygoel i lansio offer technolegol newydd fel ffonau symudol smart neu gemau cyfrifiadur, neu siopau llyfrau’n cynnal digwyddiadau cyffrous i lansio llyfrau, neu hyd yn oed siopau’n cynnig sêls anhygoel (yn enwedig ar ddechrau’r flwyddyn), mae’r swydd hon yn dod yn fwyfwy poblogaidd gan fod angen y gwasanaeth yma ar bobl sy’n meddu ar ddigon o arian ond sydd heb lawer o amser. Mae’n bwysig hefyd adeg gwerthu tocynnau prin i gig neu adeg pencampwriaeth arbennig fel Wimbledon ym mis Gorffennaf, gan fod rhai pobl gyfoethog yn fodlon talu i chi sefyll ac aros yn eu lle nhw.

Manteision

  • Cyfarfod â phobl ddiddorol
  • Does dim gorbenion – does dim angen offer na gwisg arbennig.

Anfanteision

  • Diflastod weithiau – yn enwedig os oes rhaid gweithio mewn tywydd oer a gwlyb a’ch bod chi’n sefyll rhwng dau berson sydd ddim eisiau siarad â chi.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
nifer cynyddol mwy a mwy increasing number
lansio cyhoeddi / rhyddhau am y tro cyntaf (to) launch
meddu ar bod gan / gyda rhywbeth (to) own
prin does dim llawer ohonyn nhw rare, scarce
gorbeinion costau mewn busnes overheads