Ces i brofiad rhyfedd iawn neithiwr.
Wel? Paid jyst dechrau stori ac yna’i gadael hi.
Fel mae rhai ohonoch chi’n gwybod, dw i’n byw yn Uppsala, Sweden, am flwyddyn achos mae Dad yn gweithio yma am 12 mis. Neithiwr, roeddwn i’n cerdded heibio i’r brifysgol tua 10 o’r gloch a dyma bobl yn dechrau sgrechian nerth eu pennau. Ces i fraw!
Sgrechian? Pa fath o sgrechian?
Pa fath o sgrechian? Wel dyna gwestiwn twp. Sgrechian ydy sgrechian!
Faint o bobl oedd yn sgrechian?
Dw i ddim yn siŵr, ond roedd llawer ohonyn nhw.
Pam roedden nhw’n sgrechian?
Dw i ddim yn siŵr, ond edrychais i i fyny at adeilad y brifysgol ac roedd llawer ohonyn nhw wedi agor y ffenestri ac roedden nhw jyst yn sgrechian nerth eu pennau allan drwy’r ffenestri. Rhyfedd!
Dw i’n gwybod pam maen nhw’n sgrechian.
Pam?
Bob nos, am ddeg o’r gloch, mae myfyrwyr yn Uppsala, Sweden yn agor y ffenestri neu maen nhw’n sefyll ar falconi neu ar y to ac yna maen nhw’n sgrechian. Dechreuodd hyn rai blynyddoedd yn ôl adeg arholiadau. Roedd y myfyrwyr yn teimlo o dan straen achos roedden nhw’n gweithio’n galed ar gyfer yr arholiadau ac felly penderfynon nhw sgrechian gyda’i gilydd.
Dyna ni ’te, y tro nesa bydda i’n cael prawf neu arholiad yn yr ysgol, dw i’n gwybod beth fydda i’n ei wneud am ddeg o’r gloch y nos!
Mae gen i well syniad. Beth am fynd i eistedd mewn ystafell sy’n llawn cŵn? Dyna beth mae myfyrwyr Prifysgol Dalhousie, Canada, yn ei wneud er mwyn lleihau tensiwn a straen!
Wel, ie, efallai - mae hynny’n swnio’n dawel ac yn ymlaciol iawn, ond fy hun, mae’n well gen i’r syniad o ....
SGRECHIAN!!!!!!!!!!!!