Mae llawer o Gymry wedi dod yn enwog dros y byd i gyd am eu campau ar y môr dros y blynyddoedd. Dyma i chi rai ohonyn nhw.
CYMRY A’R MȎR – Y Drwg a’r Da!
Enw: Syr Henry Morgan (Harri Morgan)
Dyddiadau: 1635-1688
Cefndir: Mab i ffermwr o ardal Llanrhymni, Caerdydd
Enwog fel: Môr-leidr
Hanes: Ymfudodd i India’r Gorllewin a gwneud enw iddo’i hun fel un o fôr-ladron enwocaf yr ail ganrif ar bymtheg. Aeth i fyw i Port Royal, Jamaica, un o borthladdoedd mwyaf peryglus y byd. Yno, ymladdodd mewn sawl brwydr waedlyd yn erbyn llongau Sbaen ac mewn gwahanol rannau o’r Caribî. Mae’n debyg iddo fod yn gweithio yno i Oliver Cromwell ac i Charles II, Brenin Lloegr, ar yr un pryd ag yr oedd yn fôr-leidr.
Er iddo gael ei arestio gan fyddin brenin Lloegr yn Panama, yn y pen draw, cafodd ei wobrwyo gan Lywodraeth Prydain drwy ei wneud yn ‘Syr’. Daeth yn Llywodraethwr Jamaica wedi hynny!
Enw: Bartholomew Roberts (Barti Ddu)
Dyddiadau: 1682-1722
Cefndir: O Gasnewydd Bach, Sir Benfro
Enwog fel: Môr-leidr
Hanes: Ymosod a dwyn oddi ar longau yn y Môr Iwerydd a’r Caribî rhwng 1719 a 1721. Anfonodd Llynges Frenhinol Prydain ddwy long ryfel i’w ddal, ac yn 1722, cafodd ei ladd mewn brwydr ger arfordir Affrica. Yn ogystal â’r Faner Ddu oedd yn chwifio ar fast llong pob môr-leidr, roedd ganddo ei faner bersonol, yn ei ddangos ei hun yn sefyll ar ddwy benglog. Mewn brwydr, gwisgai wasgod goch, trowsus pen-glin, pluen goch yn ei het a chroes ddiemwnt ar gadwyn aur am ei wddf. Mae sôn iddo ddweud mai ‘bywyd byr a llawen fydd f’arwyddair’.
Yn fyd-enwog, Barti Ddu oedd yr olaf o’r môr-ladron mawr.
Beth am ddarllen mwy am hanesion Barti Ddu yn nofel gyffrous T. Llew Jones, Barti Ddu?
Enw: Richard Tudor
Dyddiadau: 1959–
Cefndir: Un o deulu o hwylwyr sy’n byw yn Llanbedrog ger Pwllheli.
Enwog fel: Capten iot a lwyddodd i hwylio o gwmpas y byd ar ddau achlysur fel rhan o ras y British Steel Challenge, yn 1992/3 a 1996/7 – pellter o 29,000 milltir bob tro. Dyma un o rasys hwylio anoddaf y byd.
Hanes: Roedd ras 1992 yn dechrau yn Southampton yn Lloegr, cyn mynd ymlaen i Buenos Aires yn yr Ariannin, Wellington yn Seland Newydd, Sydney yn Awstralia, Cape Town yn Ne Affrica, Boston yn UDA a La Rochelle yn Ffrainc, cyn cyrraedd nôl unwaith eto yn Southampton. Llwyddodd Richard Tudor i gwblhau’r ras yn ei gwch British Steel II mewn 165 diwrnod 25 munud a 7 eiliad, yn y 10fed safle, mewn cwch 20 metr o hyd gyda chriw o 13 yn gefn iddo.
Yn 1996, llwyddodd Richard Tudor a chriw’r Nuclear Electric i ennill y chweched safle yn y ras, gan orffen mewn 171 diwrnod 1 awr 29 munud a 10 eiliad.
Y trydydd tro iddo gystadlu yn y ras, aeth ei gatamaran ffeibr carbon gwerth £2.5 miliwn, i drafferthion a dechreuodd dorri’n ddarnau. Yn ffodus, cafodd y criw eu hachub gan long oedd ar y ffordd i Halifax, Nova Scotia.
Ei hoff le i hwylio yw Bae Ceredigion, lle mae’n bosib gweld golygfeydd bendigedig o Gader Idris ac Eryri. Mae’r môr yno’n weddol fas, ac yn dawel fel arfer.
http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/halloffame/sport/richardtudor.shtml
Enw: Elin Haf Davies
Dyddiadau: 1976–
Cefndir: Yn wreiddiol o bentref y Parc, ger y Bala
Yn enwog fel: Rhwyfwraig a hwylwraig
Hanes: Elin oedd y ferch gyntaf erioed o Gymru i rwyfo ar draws Môr Iwerydd – pellter o 2,552 milltir – a hynny mewn cwch 24 troedfedd o hyd o’r enw Dream Maker gyda’i ffrind a’i chyd-nyrs Herdip Sirdu. Cystadlu yn ras y Woodvale Challenge 2007/2008 oedden nhw – ras sy’n cael ei disgrifio fel y ras rwyfo anoddaf yn y byd. Gweithiodd y pâr shifftiau 4 awr yr un drwy’r dydd a’r nos, gan rwyfo cyfanswm o 12 awr y dydd yr un. Fe gymerodd y daith o La Gomera i Antigua 77 diwrnod 7 awr a 37 munud.
Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd hi’n aelod o griw o bedair merch ar gwch y Pura Vida a dorrodd record y byd wrth rwyfo mewn ras ar draws Cefnfor India. Dechreuodd y ras yn Geraldton, Awstralia, a gorffen ar ynys Mauritius – pellter o 3,139 milltir. Gorffennodd y pedair y ras mewn 78 diwrnod, 15 awr a 54 munud.
Yn 2012, dysgodd sut i hwylio er mwyn ymuno â chriw y Visit Finlad er mwyn cystadlu yn y Clipper Round the World Yacht Race. Roedd y ras yn dechrau yn Quingdao, China, ac yn gorffen yn San Francisco, UDA – pellter o 5,680 milltir. Gorffennodd y criw o 17 y ras mewn 30 diwrnod.
Os hoffech chi wybod mwy am stori Elin, beth am ddarllen ei llyfr Ar Fôr Tymhestlog?
gwales.com ISBN: 9781845273088
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ymfudo | symud i fyw i wlad arall | (to) emigrate |
porthladdoedd | lle mae llongau'n cyrraedd y lan | ports |
brwydr waedlyd | gelynion yn ymladd yn ffyrnig yn erbyn ei gilydd | bloody battle |
gwobrwyo | cael gwobr am wneud rhywbeth | (to) award |
llywodraethwr | yr un sy'n rheoli rhywbeth neu rywle | governor |
Llynges Frenhinol | morwyr sy'n gofalu am Brydain o gwmpas y byd | Royal Navy |
arfordir | lle mae'r tir yn cwrdd â’r môr | coast |
penglog | asgwrn y pen | skull |
iot | cwch fach â hwyliau arni | yacht |