Chwaraeon Ninja

Rhifyn 52 - Rhyfedd!
Chwaraeon Ninja
Erin Erin

Mae’n hen bryd newid y dewis o chwaraeon yn yr ysgol. Dw i newydd fod yn chwarae hoci yn y glaw – yn y mwd, ar gae gwlyb, llithrig, corsiog, ych a fi! Mae croen fy nghoesau i’n goch gydag oerfel a dw i’n teimlo’n ddiflas tu hwnt. Dw i’n credu’n gryf mewn cadw’n heini, ond …

Idris Idris

Dw i’n cytuno! Dw i’n casáu rhai chwaraeon yn yr ysgol. Mae’n hen bryd cael sesiynau mwy cyffrous lle mae’r disgyblion yn mwynhau. Does dim rhyfedd bod rhai pobl ifanc yn meddwl bod chwaraeon yn ddiflas a’u bod yn penderfynu peidio â gwneud ymarfer corff ar ôl gadael yr ysgol.

Surita Surita

Beth am chwaraeon Ninja?

Erin Erin

Beth yw chwaraeon Ninja?

Rhys Rhys

Chwaraeon lle mae’n rhaid i chi wneud campau gwahanol.

Erin Erin

Fel beth?

Rhys Rhys

Mae llawer o gampau gwahanol, e.e. dringo i fyny tyrau uchel a neidio i lawr ar fagiau aer enfawr, dringo dwy wal gyfochrog yr un pryd, fel corryn – gyda’ch troed a’ch braich chwith ar y wal chwith a’ch troed a’ch braich dde ar y wal dde.

Idris Idris

Waw!

Rhys Rhys

Hefyd, camu o foncyff i foncyff …

Emma Emma

Hawdd!

Rhys Rhys

… ond mae’r boncyffion yn troi. Yn ogystal, beth am swingio o wrthrych i wrthych sy’n uchel o’r ddaear er mwyn cyrraedd diwedd y cwrs. Rhaid i chi fod yn gryf iawn i wneud hyn – rydych chi’n gallu teimlo cyhyrau rhan uchaf eich corff yn tynhau.

Matt Matt

A beth am yr ymarfer gydag ysgol sydd wedi ei gosod tua 2 fetr uwch eich pen? Rhaid swingio o ris i ris er mwyn cyrraedd diwedd y cwrs. Rhaid cael breichiau cryf i wneud hyn!

Erin Erin

Mae’r campau hyn yn swnio’n hwyl.

Catrin Catrin

Mae’r campau hyn yn wych i’r corff. Maen nhw’n cryfhau’r cyhyrau, yn cyflymu cyfradd y pwls ac felly mae ocsigen yn cael ei bwmpio o gwmpas y corff yn fwy effeithiol. Maen nhw’n gallu arwain at deimlo’n fwy effro ac maen nhw’n help ar gyfer colli pwysau hefyd.

Rhys Rhys

Maen nhw’n helpu i ddatblygu personoliaeth hefyd oherwydd pan fydd rhywun yn syrthio, mae’n codi ar unwaith ac yn trio eto. Mae’n arwain at ddyfalbarhad.

Catrin Catrin

Ac mae’n bosib gwneud hyn heb orfod cystadlu yn erbyn rhywun arall. Gallwch chi osod nod i’ch hunan a cheisio gwneud eich gorau glas heb deimlo o dan fygythiad.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
corsiog fel cors swampy, boggy
tyrau lluosog tŵr; adeiladau uchel towers
cyfochrog ochr yn ochr, gyda'r un pellter rhyngddyn nhw parallel
boncyff, boncyffion rhan isaf coeden log, logs; tree trunk, tree trunks
dyfalbarhad y gallu i ddal ati perseverance
teimlo o dan fygythiad teimlo bod rhywun yn bygwth (to) feel under threat