Trawsblannu calonnau

Rhifyn 53 - Y Galon
Trawsblannu calonnau

Trawsblannu Calonnau

Un o wyrthiau mwyaf y byd meddygol erioed yw’r gallu i drawsblannu organau o un corff i’r llall. Mae trawsblannu’n golygu tynnu organ iach o un corff, fel arfer, corff rhywun sydd newydd farw, a’i osod yn lle organ sydd ar fin methu oherwydd afiechyd, mewn corff byw. Mae tua 3,500 o drawsblaniadau calon yn digwydd ar draws y byd bob blwyddyn a thros eu hanner nhw yn yr Unol Daleithiau.

PWY YW PWY?

Dr. Christiaan Barnard
Dr. Christiaan Barnard

Yn 1967, perfformiodd Dr Christiaan Barnard o Dde Affrica'r trawsblaniad calon gyntaf ar glaf. Bu'r claf hwnnw fyw am ddeunaw diwrnod wedi’r llawdriniaeth, gan farw o niwmonia a ddatblygodd o ganlyniad i’w system imiwnedd yn gorfod addasu i'r galon newydd yn ogystal â chymhlethdodau eraill.

Llun: Christiaan Barnard 1968 - Mondadori Publishers © Wikimedia Commons

Syr Magdi Yacoub
Syr Magdi Yacoub

Yn 1983, perfformiodd y llawfeddyg Syr Magdi Yacoub drawsblaniad calon ac ysgyfaint yn llwyddiannus gan ryfeddu’r byd meddygol. Perfformiwyd y llawdriniaeth ym Mhrydain ar newyddiadurwr o Sweden, Lars Ljungberg. Mae sôn bod trawsblaniad calon ac ysgyfaint yn fwy syml na thrawsblaniad y galon yn unig gan fod llai o wythiennau gwaed bach i'w huno. Yn anffodus, bu farw’r dyn ar ôl 13 diwrnod, gyda’i deulu wrth ei ochr. Nid o achos y trawsblaniad bu farw’r claf, ond o ganlyniad i salwch hanesyddol.

Llun: M Yacoub - Raafat © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported.

TRAWSBLANNU A CHYMRU

Ers y 1af o Ragfyr 2015, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o safbwynt trawsblannu organau. Ar y diwrnod hwnnw, daeth y Ddeddf Trawsblannu Organau i rym, oedd yn golygu fod holl oedolion Cymru yn cael eu rhoi ar y Gofrestr Trawsblannu Organau oni bai eu bod yn dewis gwrthod ac optio allan.