Calon yr Aztec

Rhifyn 53 - Y Galon
Calon yr Aztec
CALON YR AZTEC - FFILM ARSWYD

Dychmyga’r olygfa (neu beidio, os yw eich stumog chi braidd yn wan!):

Ble? Canolbarth America

Pryd? 1200-400 CC

Actorion: Llwyth yr Azteciaid; offeiriaid a charcharor

Golygfa: Mae cannoedd o bobl wedi ymgasglu o gwmpas y deml ar ganol sgwâr y pentref. O’u blaenau, mae pum offeiriad - pedwar ohonynt yn sefyll yn stond a’r pumed yn dal arf callestr finiog yn ei law. O’u blaenau, mae carcharor wedi’i glymu a’i osod i orwedd ar ddarn o graig fawr ar lawr - y chamcool. Un o elynion yr Azteciaid yw’r carcharor, a ddaliwyd gan un o ryfelwyr y llwyth yn trio sleifio’i ffordd i mewn i’r pentref i achosi distryw. Er bod y carcharor yn dal yn fyw, mae’n sylweddoli’n iawn fod yn amser iddo wynebu ei dynged.

Mae’r dorf yn llawn cynnwrf, yn ysu am weld y sioe fawr yn dechrau, yn ysu am waed. Maen nhw’n gyfarwydd â’r drefn, a’r achlysur – yr aberthu. Cynnig aberth i’r duwiau, a’r aberth hwnnw’n aberth byw.

Mae’r offeiriad yn codi’r gallestr ac yn ei hyrddio i fynwes y carcharor. Daw gwaedd oddi wrth y dorf a sgrech boenus o do’r deml. Hollta’r offeiriad y cnawd a cherfio calon y carcharor o’i gorff, yn aberth i’r duwiau. Cwyd hi’n uchel i’r awyr, fel llygedyn o’r haul ac yn symbol o holl fodolaeth yr unigolyn. Mae’n ei rhoi mewn powlen, cyn i gorff marw’r carcharor gael ei daflu i waelod grisiau’r deml.

Islaw, mae’r dorf yn canu, chwibanu ac yn dawnsio i ddathlu'r aberth i’r duwiau. Mae rhai aelodau o’r dorf hefyd yn niweidio’u hunain ag arfau miniog, fel symbol o’u haberth hwythau. Caiff pen y carcharor ei dorri a’i osod ar rac penglogau gerllaw, a chaiff gweddill ei gorff ei daflu’n fwyd i’r anifeiliaid.

Diwrnod cofiadwy arall yn hanes yr Azteciaid!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymgasglu dod at ei gilydd (to) gather together
callestr craig lwyd galed oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer arfau neu offer flint
chamcool y darn mawr o graig oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aberthu chamcool
sleifio symud neu fynd mewn ffordd ddistaw bach (to) sneak
distryw chwalfa, dinistr, difrod destruction
aberthu cyflwyno rhywbeth yn rhodd i'r duwiau (to) sacrifice
hyrddio taflu neu wthio'n galed iawn (to) throw
mynwes brest, y rhan flaen o'r corff rhwng yr ysgwyddau chest