Gwylio'r anifeiliaid yn ein gwylio ni

Rhifyn 54 - Gwyliau gwych
Gwylio'r anifeiliaid yn ein gwylio ni
Gwylio'r anifeiliaid yn ein gwylio ni

Mae gwyliau cerdd yn boblogaidd iawn dros yr haf, wrth gwrs, ac maen nhw’n digwydd ar draws y byd. Dyma gyfle i bobl ifanc (a phobl sydd ddim mor ifanc!) ddod at ei gilydd i fwynhau sesiynau byw gyda bandiau a cherddorion dawnus (a rhai sydd ddim mor ddawnus!). Dyma gyfle hefyd i fwynhau cwmni ffrindiau hen a newydd, i ddawnsio ac i ymlacio. Mewn gair, dyma gyfle i FWYNHAU ac i anghofio am broblemau bywyd a helyntion y byd.

Gŵyl Sŵ Trydanol Efrog Newydd

Dyna beth sy’n digwydd yng ngŵyl flynyddol Sw Trydanol Efrog Newydd hefyd, gyda miloedd o bobl yn tyrru yma o bellafoedd y ddaear i ddathlu penwythnos Gŵyl Lafur ac i fwynhau cerddoriaeth electronig. Mae bandiau enwocaf y byd yn dod yma i berfformio bob blwyddyn ac eleni, bydd yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal o 31 Awst tan 2 Medi, yn ddeg oed. Maen nhw’n addo’r ŵyl fwyaf a’r fwyaf cyffrous erioed – gŵyl i’w chofio mae’n siwr!

Ond roedd gŵyl y llynedd yn un fythgofiadwy hefyd! Roedd rhywbeth ynddi oedd yn gwneud i’r partïwyr stopio am ennyd ac i ystyried. Yn edrych i lawr arnyn nhw, o’r coed tal, roedd lluniau o bennau anifeiliaid. Yn eu tro, roedd pen llew, gorila, eliffant, igwana, tylluan ac anifeiliaid eraill yn gwylio pawb, gyda’u llygaid yn dilyn y partïwyr yng nghanol yr holl firi!

Animal Watching

Gosodiad celfyddydol o’r enw Animal Watching oedd hyn a’r bwriad oedd codi ymwybyddiaeth y bobl bod cynefinoedd yr anifeiliaid o dan fygythiad. Mewn geiriau eraill, tra roedden nhw’n mwynhau eu hunain, roedd dyn yn rhywle arall yn dinistrio cynefinoedd, yn lladd anifeiliaid ac yn difetha ecosystemau.

Roedd y gosodiad yn awgrymu bod yr anifeiliaid hyn yn gwylio dyn a’u bod nhw’n anhapus iawn gan ei fod mor ddinistriol.

Os ydych chi eisiau gweld peth o’r gwaith, cliciwch ar y wefan yma ac edrychwch ar Animal Watching @ Electric Zoo, New York. Sylwch yn arbennig ar wynebau’r anifeiliaid:

https://lifeandsoulmagazine.com/2017/09/15/animal-watching-animated-animals-gaze-at-passersby-to-raise-awareness-of-habitat-destruction/

Maizz Visual greodd y gosodiad, ar sail adroddiad gan y WWF* a oedd yn dangos bod hanner yr anifeiliaid gwyllt yn y byd wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear yn ystod y 42 mlynedd diwethaf, o ganlyniad i weithredoedd dyn. Rydyn ni’n eu lladd nhw … rydyn ni’n llygru eu hamgylchedd … rydyn ni’n dinistrio’u cynefinoedd. Mae hyn yn anhygoel! Mae hyn yn anfoesol!

Mae Maizz Visual yn bwriadu mynd â’r gosodiad i wyliau ar hyd a lled y byd er mwyn codi ymwybyddiaeth mwy o bobl o’r perygl, felly ga i roi her i wyliau Cymru? Beth am geisio denu’r gwaith hwn i rai o wyliau Cymru eleni – neu o leiaf beth am i ni feddwl am ffordd arall o geisio gwneud pobl yn ymwybodol o ganlyniadau ein gweithredoedd ni ar fywyd gwyllt? Mae’n ddigon hawdd i ni ymgolli yn y gerddoriaeth … a’r dawnsio … a’r gwmnïaeth … a’r mwynhad, ond allwn ni ddim o ddifri droi ein cefnau ar bethau pwysicach y byd!

Beth amdani, drefnwyr gwyliau Cymru?

* Os hoffech chi wybod mwy am yr WWF, ewch i:

https://www.wwf.org.uk/ynghylch-wwf-cymru

https://www.youtube.com/watch?v=jstCqO9mWn8

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Gŵyl Lafur gŵyl Americanaidd i ddangos parch tuag at weithwyr a'u gwaith, ar y dydd Llun cyntaf ym mis Medi. Mae'n gyfle i gael diwrnod o wyliau ac i ffarwelio â'r haf. Labour Day
taflunio dangos llun ar sgrin neu ar ryw wrthrych arall (to) project
miri hwyl, rhialtwch fun
gosodiad celfyddydol darn o gelf sy'n cael ei osod yn rhywle art installation
ymwybyddiaeth bod yn ymwybodol o rywbeth awareness
cynefinoedd lluosog cynefin; lle mae'r anifeiliaid yn byw habitats
o dan fygythiad mewn perygl under threat
dinistrio, difetha distrywio (to) destroy