Chwaraeon - yr ateb i bopeth!

Rhifyn 56 - Cyfri'r Ceiniogau ym Myd Chwaraeon
Chwaraeon - yr ateb i bopeth!
Y Peiriant Ateb
www.ypeiriantateb.cymru

Oes enghreifftiau o wleidyddiaeth yn effeithio ar chwaraeon rhyngwladol?

Mae gan chwaraeon y gallu i godi calonnau pobl ar adegau anodd.

  • Cwpan Rygbi’r Byd, De Affrica 1995
    Ar ôl degawdau o rwygiadau oherwydd apartheid, daeth y bobl wyn a’r bobl ddu yn Ne Affrica at ei gilydd i gefnogi eu tîm rygbi, y Springboks, wrth iddyn nhw fynd ymlaen i ennill Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn honno o dan arweiniad y capten ysbrydoledig, Francois Pienaar. Un o ddelweddau mwyaf cofiadwy’r bencampwriaeth oedd arlywydd y wlad, Nelson Mandela, yn cyflwyno’r Cwpan i gapten De Affrica. Gwelwyd llawer o welliannau yn Ne Affrica o safbwynt apartheid ar ôl y digwyddiad hwn.

    Bron ugain mlynedd ynghynt, roedd sefyllfa apartheid De Affrica wedi achosi trafferthion yng Ngemau Olympaidd Montréal yn 1976, pan wrthododd 25 o wledydd Affrica fynd i’r Gemau oherwydd bod tîm rygbi Seland Newydd, y Crysau Duon, wedi mynd ar daith rygbi yno yn gynharach yn y flwyddyn. Digwyddodd y daith pan oedd apartheid yn dal yn ei anterth.

 

Oes enghreifftiau o arian yn dylanwadu ar chwaraeon rhyngwladol?

Mae dylanwad arian i’w weld yn drwm ar fyd chwaraeon, ac yn fwy fyth yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny’n digwydd yn bennaf drwy gyfrwng arian nawdd, sef pan fydd cwmnïau  mawr yn rhoi arian i chwaraewyr unigol neu i dimau er mwyn hysbysebu eu brand nhw. Mae llawer o brif ddigwyddiadau byd chwaraeon hefyd yn cael eu noddi, er enghraifft:

  • Cwpan Heineken – rygbi
  • Uwch Gynghrair Barclays – pêl-droed

Mae gan ambell stadiwm enwau noddwyr:

  • Stadiwm y Principality – Caerdydd
  • Stadiwm yr Emirates – Arsenal
  • Stadiwm Aviva – Dulyn

Mae gan nifer o dimau noddwyr:

  • WRW Construction – Y Sgarlets
  • ISUZU – Tîm Rygbi Cymru

Bellach, mae nawdd i fyd chwaraeon oddi wrth gwmnïau tybaco wedi’i wahardd ym Mhrydain. Gall y fath nawdd fod yn werthfawr iawn, ond mae’r llywodraeth yn gweld bod tybaco’n  niweidiol iawn i iechyd pobl, ac felly mae’n dymuno peidio â’i hyrwyddo.

Oes pobl wedi marw oherwydd gwleidyddiaeth ym myd chwaraeon?

Gall cymysgu chwaraeon a gwleidyddiaeth fod yn niweidiol iawn, gan arwain at ganlyniadau trychinebus.

  • Gemau Olympaidd Munich, 1972
    Gwleidyddiaeth oedd wrth wraidd y trychineb yng Ngemau Olympaidd Munich pan gafodd 11 o athletwyr o Israel ac un heddwas eu lladd gan grŵp terfysgol o Balestina, y Black September. Cafodd yr athletwyr eu cymryd yn wystlon cyn cael eu saethu’n farw. Cafodd pump o’r terfysgwyr eu lladd gan heddlu arfog wrth iddyn nhw geisio achub yr athletwyr, ond llwyddwyd i ddal pump arall. Roedd y terfysgwyr yn galw am ryddhau 234 o garcharorion Palestinaidd oedd wedi eu carcharu yn Israel. Ond, ar ôl i awyren o’r Almaen gael ei herwgipio fis yn ddiweddarach, cytunodd llywodraeth yr Almaen i ryddhau’r terfysgwyr yn gyfnewid am ddychwelyd yr awyren a’r teithwyr.

 

Ydy arian yn ddylanwad da neu’n ddylanwad drwg ar fyd chwaraeon?

Mae arian yn gallu helpu i ddatblygu byd chwaraeon ond mae hefyd yn gallu bod yn broblem. Rhai o’r problemau mwyaf yw:

  • gamblo ar ganlyniadau o fyd chwaraeon
  • llwgrwobrwyo er mwyn dylanwadu ar ganlyniadau rasys a gemau
  • llwgrwobrwyo er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau

Er bod FIFA wedi penderfynu mai Qatar, yn y Dwyrain Canol, fydd cartref Cwpan Pêl-droed y Byd yn 2022, mae llawer o gwyno o hyd ynglŷn â hynny. Gan fod y wlad mor eithriadol o boeth, sy’n  golygu y bydd chwarae gemau mewn tymheredd mor uchel yn hynod o anodd, mae rhai gwledydd wedi awgrymu bod swyddogion a llywodraeth Qatar wedi dylanwadu ar benderfyniad FIFA drwy gynnig symiau mawr o arian. Wedi’r cwbl, gyda holl gyfoeth olew’r wlad, gall Qatar fforddio gwneud hynny! Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer y digwyddiad eisoes wedi dechrau, gyda 9 stadiwm newydd sbon, modern dros ben, yn cael eu hadeiladu yno.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Springboks yr enw ar dîm rygbi De Affrica Springboks
apartheid y drefn o gadw pobl wyn a phobl ddu ar wahân apartheid
gwahardd rhwystro, atal, stopio forbid
gwystl pobl sy'n cael eu cadw yn rhywle a'u rhwystro rhag gadael hostages
terfysgwyr pobl sy'n niweidio, lladd a dial ar bobl eraill yn enw achos arbennig terrorists
llwgrwobrwyo talu arian i rywun wneud rhywbeth er mwyn eich helpu chi, fel arfer yn groes i'r graen neu yn groes i'r rheolau neu'r gyfraith blackmail