CLECS KOREA

Roedd llygaid y byd ar Stadiwm Olympaidd PyeongChang neithiwr ar gyfer agoriad swyddogol Gemau Olympaidd y Gaeaf, 2018. Dyma’r trydydd tro ar hugain i Gemau’r Gaeaf gael eu cynnal, gan roi cyfle i wledydd y byd ddod at ei gilydd i gystadlu mewn chwaraeon a chystadlaethau Alpaidd o gwmpas ardal PyeongChang, De Korea. Dyma’r ddinas leiaf i fod yn gartref i Gemau’r Gaeaf ers 1994 yn Lillehammer, Norwy. Mae’r digwyddiad eleni yn fwy cyffrous na’r arfer oherwydd gwleidyddiaeth y rhan hon o Asia.

Eleni, bydd 2,922 o athletwyr yn cystadlu, 1,680 o ddynion a 1,242 o ferched, ac roedd y mwyafrif ohonyn nhw’n gorymdeithio neithiwr y tu ôl i faneri eu gwledydd yn y Seremoni Agoriadol. Ond golygfa ryfeddaf y seremoni oedd gweld athletwyr De Korea yn gorymdeithio ochr yn ochr ag athletwyr Gogledd Korea.

10 Chwefror 2018

Mae’r ddwy wlad wedi bod yn elynion ers diwedd Rhyfel Korea yn 1953. Mae’r Gogledd yn wlad gomiwnyddol, fel China, dan yr arweinydd ymfflamychol, Kim Jong Un. Aeth ei chwaer, Kim Yo Jong, i’r Seremoni Agoriadol. Dyma’r tro cyntaf ers diwedd Rhyfel Korea i aelod o deulu arweinydd Gogledd Korea ymweld â’r De.

Roedd Gogledd Korea wedi cynnig cynnal rhai o’r cystadlaethau sgïo yn ardal Wonson, rhanbarth Gangwon, ond gwrthododd De Korea. Dros gyfnod y Gemau hefyd, mae De Korea wedi newid y ffordd mae enw’r ddinas yn cael ei sillafu i PyeongChang - gyda ‘C’ fawr yng nghanol yr enw, rhag i bobl ddrysu gydag enw prifddinas Gogledd Korea, Pyongyang. Dim ond rhyw hanner can milltir sydd rhwng dinas PyeongChang â’r ffin niwtral rhwng y ddwy wlad.

Yn ôl Llywydd y Pwyllgor Olympaidd, Thomas Bach, roedd hyn yn dangos bod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn PyeongChang yn symbol o “wawr newydd i wledydd y byd.”

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Alpaidd rhywbeth sy'n perthyn i ardal mynyddoedd yr Alpau. Mae sgïo'n cael ei ddisgrifio fel camp Alpaidd Alpine
hynod rhywbeth arbennig neu unigryw unique
gorymdeithio cerdded mewn rhesi, fel mae milwyr yn ei wneud (to) march
heriau pethau sy'n anodd eu hwynebu neu i ddelio â nhw challenges
gwleidyddiaeth y ffordd mae rhywbeth yn cael ei redeg neu ei drefnu politics
comiwnyddol system o fewn gwlad lle mae pawb yn rhannu'r gwaith a'r arian mor gyfartal â phosib communist
ymfflamychol tanllyd iawn a hoff o gweryla inflammatory
ffin niwtral darn o dir rhwng dwy wlad sy'n elynion lle nad oes hawl cadw byddin nac arfau, er mwyn stopio rhyfel neutral zone
llywydd pennaeth neu arweinydd, yr un sydd â'r gair olad mewn cwmni neu sefydliad president