Annwyl Olygydd y Daily Post,
Ysgrifennaf atoch i ddweud pa mor rhwystredig ydw i ynglŷn â Chlwb Pêl-droed Lerpwl a’r ffordd annheg y mae’n talu cyflogau i’w chwaraewyr a’i weithwyr eraill.
Rydw i wedi bod yn cefnogi’r tîm erioed, ac yn mwynhau gwylio’r cochion yn chwarae wrth ymweld â’r Kopp yn eu gemau gartref. Er bod gan Lerpwl dîm arbennig a bod llawer o’u chwaraewyr yn arwyr i mi, rydw i’n poeni’n fawr eu bod nhw’n derbyn llawer gormod o gyflog am eu gwaith a bod llawer gormod o arian yn cael ei wario ar chwaraewyr ym myd pêl-droed yn gyffredinol. Dyna i chi Philippe Coutinho, a gafodd ei werthu gan Lerpwl i Barcelona am £142 miliwn ar ôl prynu Virgil Van Dijk o Southampton am £78 miliwn.
Mae llawer o bobl eraill yn gweithio i glwb pêl-droed fel Lerpwl, heblaw’r chwaraewyr. Ar ben arall y sbectrwm, mae’r cynorthwywyr a’r staff achlysurol - tua 1,000 ohonyn nhw - sy’n cael eu talu ond £8.45 yr awr. Dim ond yn ddiweddar y cytunodd y clwb i godi’r cyflog i’r ffigwr hwn, er mwyn talu Graddfa Cyflog Byw. Bydd y dynion a’r merched sy’n gwneud yn siŵr fod y sioe yn Anfield yn rhedeg yn esmwyth yn derbyn eu codiad cyflog o 95c yr awr ym mis Mehefin 2018, yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd.
Ar adeg pan mae cymaint o dlodi yn dal i’w weld yn ninas Lerpwl a gweddill Prydain, does bosib y gallai arian cyflogau chwaraewyr y tîm pêl-droed gael ei rannu’n fwy cyfartal rhwng y staff i gyd. Gallai’r clwb hefyd gyfrannu mwy at elusennau’r ddinas wedyn, efallai, yn cynnwys yr ysbytai lleol a chefnogi pobl ifanc.
Yn gywir,
Siôn Gwilym
Annwyl Olygydd y Western Mail,
Mae’r byd wedi mynd yn hollol wallgo! Neu, o leiaf y byd pêl-droed! Ers pryd mae unrhyw chwaraewr yn werth cyflog o £600,000 yr wythnos, neu £28.8 miliwn y flwyddyn! Dyna beth mae tîm pêl-droed Paris St Germain wedi cytuno i dalu i’r chwaraewr o Frasil, Neymar. Gwych neu beidio, dim ond cicio pêl o un diwrnod i’r llall mae e’n ei wneud. Yn fy marn i, dydy hyn ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
Mewn cymhariaeth, mae Prif Weinidog Prydain – sy’n gyfrifol am redeg y wlad – yn ennill cyflog o £150,402 y flwyddyn, mae meddyg teulu profiadol yn ennill hyd at £84,500 am 50 awr yr wythnos ac athro neu athrawes yn syth o’r coleg yn ennill o gwmpas £22,917 y flwyddyn. Gall rhai chwaraewyr pêl-droed ennill cyflog athro mewn awr, a chyflog prif weinidog mewn diwrnod – er nad oes bywyd neb yn dibynnu arnyn nhw.
Sawl ysgol neu ysbyty newydd fyddai’n bosib ei adeiladu am £28.8 miliwn Neymar tybed?!
Gan ddiolch i chi am roi sylw i’m llythyr.
Angharad Morris