Dyma hen bennill a diarhebion sy'n ymwneud ag amser. 
Mae gen i, ac mae gan lawer,
Gloc ar fur i gadw amser;
Mae gan Moses Pantymeysydd
Gloc ar y mur i gadw tywydd.
| Dihareb | Ystyr |
| Amser a ddengys. | Fe gawn ni weld yn y dyfodol. (Time will tell.) |
| Athro da yw amser. | Rydyn ni'n dysgu llawer wrth i amser fynd heibio. |
| Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun. | Mae digon o bethau i boeni amdanyn nhw heddiw, heb feddwl am yfory. |
| Codi cyn cŵn Caer. | Codi'n gynnar dros ben. |
| Yr awr dywyllaf yw'r un cyn y wawr. | Mae problem yn edrych yn anodd bob amser ond bydd ateb yn dod. |
| Cynnar i hau, cynnar i fedi. | Mae'r un sy'n dechrau'n gynnar yn gorffen yn gynnar. |
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| dengys (berfenw - dangos) | bydd yn dangos, mae’n dangos | shows, will show |
| gwawr (eb) | pan fydd yr haul yn codi | sunrise |