Newid yr awr

Rhifyn 6 - Amser
Newid yr awr

Ddiwedd mis Hydref bob blwyddyn, rydyn ni'n newid yr awr. Rydyn ni'n troi'r cloc yn ei ôl fel ei bod hi'n oleuach yn y bore ac yn tywyllu'n gynt. Mae hyn yn fantais fawr i'r Alban, oherwydd eu bod nhw'n nes at begwn y gogledd, a'r dydd yn fyr yn y gaeaf.

Yn ôl ymgyrch 'Lighter Later' dydy troi'r cloc yn ei ôl ddim yn gwneud synnwyr i Gymru a Lloegr. Maen nhw eisiau i ni droi'r clociau ymlaen awr drwy gydol y flwyddyn er mwyn bod yr un amser â'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop. h2_1.jpg

 

Dadleuon dros fod awr ar y blaen

• Bydden ni yr un amser â'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac er y byddai hi'n dywyllach yn y bore, byddai mwy o oriau o olau gyda'r nos.

• Byddai llai o ddamweiniau ar y ffyrdd - byddai tua 100 yn llai o bobl yn cael eu lladd y flwyddyn. Mae damweiniau'n digwydd wrth iddi nosi gan fod pobl wedi blino. Mae llawer o blant yn cael eu bwrw i lawr wrth gerdded adref o'r ysgol yn y tywyllwch.

• Byddai mwy o dwristiaid yn dod yma yn yr haf - byddai hi'n olau tan tua 11pm yng ngorllewin Cymru ym misoedd Mehefin a Gorffennaf. Felly, byddai rhagor o swyddi'n cael eu creu.

• Byddai mwy o oriau o olau ar ôl i bobl ddod adref o'r gwaith. Bydden ni'n treulio mwy o amser ar ddihun yn ystod oriau golau. Felly, byddai llai o allyriadau carbon oherwydd fydden ni ddim yn goleuo a gwresogi cymaint ar ein tai.

• Byddai dinasoedd fel Caerdydd a Llundain yr un amser â Pharis, Berlin a dinasoedd Ewrop.

 

Dadleuon yn erbyn h2_2.jpg

• Byddai hi'n broblem i'r Alban pe na bai'r clociau'n cael eu troi'n ôl. Fyddai hi ddim yn gwawrio tan 10 y bore. Byddai plant yn mynd i'r ysgol yn y tywyllwch a ffermwyr yn gweithio am oriau yn y bore cyn iddi oleuo.

• Does neb yn hoffi dihuno pan fydd hi'n dywyll. Mae pobl yn hapusach os ydyn nhw'n deffro wrth iddi oleuo. Mae 'cloc y corff' yn ymateb i'r golau.

 

Y Mesur Arbed Golau Dydd

Roedd y Mesur Arbed Golau Dydd i fod i gael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin ar 20 Ionawr 2012. Ond methodd y Mesur oherwydd bod rhai aelodau seneddol wedi gwneud yn siŵr fod dim amser i'w drafod. 

Pe bai'r Mesur Arbed Golau Dydd wedi cael ei basio, byddai'r clociau wedi cael eu symud ymlaen awr drwy'r flwyddyn. Ond efallai bod gobaith i'r ymgyrch 'Lighter Later' - maen nhw'n dal i bwyso ar y llywodraeth i gyflwyno'r mesur rywbryd eto.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwneud synnwyr yn rhesymol to make sense
ymgyrch (eb) brwydr, ymdrech campaign
allyriadau carbon y carbon rydyn ni’n ei greu wrth losgi tanwydd carbon emissions
ymateb ateb to respond
Mesur Arbed Golau Dydd mesur seneddol Daylight Saving Bill