Dyma hen bennill a diarhebion sy'n ymwneud ag amser.
Mae gen i, ac mae gan lawer,
Gloc ar fur i gadw amser;
Mae gan Moses Pantymeysydd
Gloc ar y mur i gadw tywydd.
Dihareb | Ystyr |
Amser a ddengys. | Fe gawn ni weld yn y dyfodol. (Time will tell.) |
Athro da yw amser. | Rydyn ni'n dysgu llawer wrth i amser fynd heibio. |
Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun. | Mae digon o bethau i boeni amdanyn nhw heddiw, heb feddwl am yfory. |
Codi cyn cŵn Caer. | Codi'n gynnar dros ben. |
Yr awr dywyllaf yw'r un cyn y wawr. | Mae problem yn edrych yn anodd bob amser ond bydd ateb yn dod. |
Cynnar i hau, cynnar i fedi. | Mae'r un sy'n dechrau'n gynnar yn gorffen yn gynnar. |
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dengys (berfenw - dangos) | bydd yn dangos, mae’n dangos | shows, will show |
gwawr (eb) | pan fydd yr haul yn codi | sunrise |