Hir pob aros

Rhifyn 6 - Amser
Hir pob aros

Bore rhewllyd arall. Cerddodd Non yn araf ar hyd y palmant. Roedd ei hanadl fel cwmwl o fwg o'i blaen. Bob bore, byddai hi'n gadael y tŷ gyda'i rhieni am chwarter i wyth. bws.jpgOnd doedd y bws ysgol ddim yn dod tan chwarter wedi wyth. Doedd dim angen brysio. Byddai hi'n cerdded fel malwoden, ond hyd yn oed wedyn, roedd oesoedd cyn i'r bws gyrraedd.

Roedd Non yn casáu'r holl aros. Beth oedd y ddihareb 'na? Hir pob aros. Hyd yn oed gyda cherddoriaeth yr iPod yn ei chlustiau, roedd pob munud fel awr. Roedd yn rhaid iddi aros ar ei phen ei hun am oesoedd.

Ffion o Flwyddyn 10 oedd yn glanio gyntaf, fel arfer. Doedd Non byth yn siarad â hi, ond byddai'r ddwy'n rhoi gwên fach sydyn i'w gilydd.

Ychydig funudau wedyn, byddai car yn stopio a Jac a Rhys yn neidio allan ohono. Dau frawd oedden nhw. Roedd Jac ddwy flynedd yn hyn na Rhys. Bydden nhw'n dadlau fel ci a chath bob amser, ond doedd dim gwahaniaeth gan Non. Tair munud arall, a byddai'r bws yn dod.

Roedd y tair munud olaf yn llusgo. Roedden nhw'n teimlo fel canrif. Roedd hi mor oer, ond doedd gwisgo cot ddim yn cŵl. Roedd hi'n well gan Non rewi'n gorn na gwisgo cot.

Pan oedd y bws yn dod i'r golwg, byddai Dylan yn rhedeg atyn nhw, fel milgi. Roedd e'n cael neges destun oddi wrth ei ffrind bob bore i ddweud bod y bws ar y ffordd. Felly roedd e'n gallu aros yn y tŷ cynnes tan yr eiliad olaf. Y gwalch lwcus!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
rhewllyd oer iawn frosty
dihareb (eb) dywediad proverb
glanio cyrraedd to land
llusgo tynnu rhywbeth trwm y tu ôl i chi to drag
rhewi’n gorn mynd yn oer iawn, iawn to freeze solid
milgi ci tenau sy'n rasio greyhound
neges destun (eb) neges drwy’r ffôn symudol text message