Rholio yn yr eira neu doddi yn yr haul?

Rhifyn 60 - Ble hoffech chi fod?
Rholio yn yr eira neu doddi yn yr haul?
postcard
Slide background

Cyfarchion o Sydney!

Sut dach chi … a sut mae’r tywydd? Oer? Braf?

Wel, mae hi’n grasboeth yma ac mae pethau rhyfedd iawn wedi bod yn digwydd yn y tywydd eithafol – ffyrdd yn toddi yng ngwres yr haul, ystlumod yn syrthio’n farw o’r coed … tanau gwyllt. Ar y strydoedd, mae elusennau’n rhoi dŵr i bobl sychedig achos y gwres. Roedd hi mor boeth â 47.3oC mewn un rhan o Sydney yn ddiweddar – anhygoel!!! Roeddwn i’n toddi!

Ddydd Nadolig, y cynllun oedd syrffio a nofio yn y bore ac yna barbeciw i ginio, ond roedd hi’n rhy boeth i fi ac roeddwn i’n teimlo’n eitha sâl! Doeddwn i ddim am fentro allan o oerfel y tŷ (lle mae system awyru) i losgi yn yr haul!

Dw i’n gallu’ch dychmygu chi rŵan yn eich cotiau a’ch sgarffiau yn mynd am dro i’r traeth. Mwynhewch! Hoffwn i fod yno gyda chi.

Caru chi!

Deio

 

Mae Deio yn Sydney, Awstralia. Mae Awstralia wedi ei lliwio'n binc ar y map.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cesig eirau lluosog caseg eira; peli eira enfawr huge snowball usually formed by rolling it along the snow
go brin! ddim yn debyg! hardly!
dyheu am awchu am, eisiau rhywbeth o ddifri (to) yearn for
ystlumod lluosog ystlum; anifeiliaid sy'n hedfan yn ystod y nos bats
system awyru system i oeri'r aer air conditioning system