Os ydych chi eisiau dathlu’r Nadolig ar Ragfyr 25, does dim pwynt i chi fynd i Ethiopia!

Pam?

Oherwydd maen nhw’n dathlu’r Nadolig ar Ionawr 7 – a byddwch chi’n teimlo’n unig iawn yn gwisgo’ch het Siôn Corn ac yn bwyta’ch cacen Nadolig ar eich pen eich hun.

Yn wir, mae gan bobl Ethiopia eu ffordd arbennig o ddathlu’r Nadolig …

Cyn y Nadolig

Mae rhai pobl yn ymprydio am 43 diwrnod cyn y Nadolig, gan ddechrau ar Dachwedd 25. Yn ystod y cyfnod hwn, maen nhw’n bwyta un pryd fegan y dydd. Mae pobl eraill yn ymprydio’r diwrnod cyn y Nadolig yn unig.

Dros y Nadolig (Ionawr 7)

Fel rhan o’r traddodiad, mae pobl yn gwisgo Netela – darn gwyn tenau o gotwm gyda streipiau llachar ar hyd yr ymylon, er bod rhai pobl yn y dinasoedd erbyn heddiw yn gwisgo dillad y gorllewin.

Yn y dillad arbennig hyn, maen nhw’n mynd i offeren hir iawn yn yr eglwys yn oriau mân y bore. Cyn mynd i mewn i sefyll yn yr offeren, mae pawb yn cael cannwyll arbennig ac maen nhw’n cerdded o gwmpas yr eglwys dair gwaith.

I ginio, maen nhw’n bwyta “wat”, stiw sbeislyd tew o gig a llysiau, ac weithiau wyau. Maen nhw’n defnyddio “injera”, sef darn o fara fflat, fel plât.

Fel arfer, mae’r dynion a’r bechgyn yn chwarae “ganna”, gêm debyg iawn i hoci, gan ddefnyddio ffon grom a phêl o bren.

Ar ôl y Nadolig

Ddeuddeg diwrnod ar ôl y Nadolig, Ionawr 19, mae dathliad arall o’r enw “Timkat” sy’n para am dri diwrnod. Mae’r bobl yn gorymdeithio i’r eglwys i gyfeiliant cerddoriaeth frodorol, rythmig, gan wisgo dillad arbennig, ac mae’r offeiriaid yn cario ymbaréls mawr.

Yn ystod y dathlu, mae rhai dynion yn cymryd rhan mewn camp arbennig o’r enw “yeferas guks”. Maen nhw’n reidio ceffylau ac maen nhw’n taflu gwaywffyn at ei gilydd. (Peidiwch chi â thrïo hyn, da chi!)

Yn wahanol i ni, nid yw pobl yn rhoi anrhegion i’w gilydd fel arfer. Mae’r prif bwyslais ar fynd i’r offeren, gwledda a chwaraeon.

“Melikam Gena” i chi!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymprydio peidio â bwyta (to) fast
offeren gwasanaeth yn yr eglwys Gatholig mass
crom ffurf fenywaidd crwm; bwaog, cam crooked
i gyfeiliant i sŵn y gerddoriaeth to the accompaniment of
brodorol perthyn i'r wlad native
gwaywffyn ffurf luosog gwaywffon; arfau hir â blaen miniog spears
da chi er mwyn popeth for goodness sake