A dyma’r newyddion...

Rhifyn 8 - Chwaraeon
A dyma’r newyddion...

Gwrandewch ar y darn yma o newyddion o'r Gemau Olympaidd yn y flwyddyn 404 Cyn Crist. Roedd y gemau bryd hynny'n wahanol iawn i'n Gemau Olympaidd ni heddiw! Yna, ar ôl gwrando, darllenwch y wybodaeth isod.

Y Gemau Olympaidd - amser maith yn ôl

Roedd y Gemau Olympaidd amser maith yn ôl yn wahanol iawn i'r Gemau Olympaidd modern.

• Mae'r Gemau Olympaidd yn hen iawn, iawn. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn dyddio o'r flwyddyn 776 Cyn Crist.

• Roedd y Gemau'n digwydd yn Olympia, Groeg, bob tro.

c2_1 (1).jpg

• Dim ond un ras oedd i ddechrau.

• Dim ond dynion oedd yn rhedeg ac roedden nhw'n rhedeg yn noeth.

• Roedd yr enillwyr yn cael coron o ddail.

c2_2 (1).jpg

• Dros y blynyddoedd, daeth cystadlaethau eraill yn rhan o'r Gemau Olympaidd, fel:

-  bocsio c2_3.jpg
-  taflu gwaywffon
-  taflu disgen
-  rasio cerbydau rhyfel
-  neidio
-  pentathlon - taflu disgen, taflu gwaywffon, neidio, reslo a rhedeg.

Roedd un ras anodd iawn hefyd - ras ar gyfer dynion oedd yn gwisgo helmed drom ac yn cario tarian.

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cleddyfa camp lle mae dau berson yn ymladd â chleddyfau (sword) fencing
canolbarth ardal yn y canol midlands
oes bywyd life
dan bwysau dan straen stressed, under pressure
dyfalbarhad dal ati perseverance
cofnod ysgrifenedig darn sydd wedi ei ysgrifennu written record
gwaywffon darn hir, tenau o bren javelin
drom ffurf fenywaidd ‘trwm’ heavy
tarian offer arbennig roedd milwyr yn ei gario i’w hamddiffyn eu hunain mewn brwydr shield