Lisa Rhydderch

Alla i ddim credu'r peth! Mae swyddogion a threfnwyr y Gemau Olympaidd yn Llundain yn gwneud yr un camgymeriad eleni eto! Maen nhw'n gwario … gwario … gwario! Edrychwch ar y seremoni agoriadol er enghraifft. Faint maen nhw'n mynd i wario ar hon? Tua dau ddeg saith miliwn o bunnau, yn ôl pob sôn! Ac i beth? Beth bynnag fyddan nhw'n ei wneud, fydd y seremoni byth cystal â'r sbloets oedd yn Beijing bum mlynedd yn ôl - ac fe gostiodd honno gan miliwn o bunnau, yn ôl rhai pobl.  Gwastraff arian yw'r cwbl yn fy marn i - yn enwedig mewn cyfnod lle mae cymaint o broblemau ariannol.

Mae'n warthus!

Ceri Smith

Does dim angen gwario cymaint o arian ar y seremoni agoriadol! Roedd y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 1948, yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac roedd y seremoni agoriadol yn syml - ond effeithiol iawn. Gorymdeithiodd yr athletwyr o gwmpas y stadiwm. Perfformiodd corau a bandiau (roedd hi jyst yn anffodus bod rhai o'r offerynnau allan o diwn oherwydd y tywydd poeth!) Cafodd 7,000 o golomennod eu rhyddhau, cariwyd y fflam i mewn i'r stadiwm a chodwyd y faner. Syml!

Cafodd y gynulleidfa (tua 80,000 ohonyn nhw) amser da. Roedden nhw wedi dod â'u picnic eu hunain, gan fod bwyd yn dal yn brin ar ôl y rhyfel. Doedd dim angen lleoedd bwyta posh na stondinau bwyd cyflym. Doedd dim angen unrhyw ffýs bryd hynny a does dim angen unrhyw ffýs heddiw! Dim tân gwyllt! Dim sbloets! Dim ffýs! Diolch!

Lyn Davies

Ydy, mae seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn mynd i gostio miliynau o bunnau, ac oes, mae problemau ariannol y dyddiau hyn, ond bydd y seremoni agoriadol yn werth pob ceiniog, dw i'n siwr!

Bydd biliynau o bobl ar draws y byd yn mwynhau'r adloniant - ar y teledu, ar y radio ac ar y we! Ond yn fyw na hynny, mae'n bwysig bod Llundain yn cynnal seremoni liwgar, gyffrous a fydd yn dweud wrth y byd bod Prydain yn wlad arbennig, sy'n ymfalchïo yn ei diwylliant ac yn ei chwaraewyr. Mae'r seremoni'n gyfle da i ni ddangos beth sydd gan Brydain i'w gynnig i'r byd!

Rhaid i ni gofio hefyd beth yw gwerthoedd y mudiad Olympaidd - Rhagoriaeth, Cyfeillgarwch a Pharch. Dyma gyfle i ni ddangos y gwerthoedd hyn drwy drefnu'r seremoni orau posib -Rhagoriaeth; seremoni a fydd yn dod â gwledydd at ei gilydd - Cyfeillgarwch;  seremoni a fydd yn dangos parch tuag aton ni'n hunain a thuag at bobl eraill y byd - Parch.

Dw i'n methu aros!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymfalchïo bod yn falch o to be proud of
gwerthoedd beth mae’r Gemau Olympaidd yn sefyll drosto values
rhagoriaeth gwneud eich gorau i gyrraedd safon ragorol excellence
cyfeillgarwch bod yn ffrindiau friendship
parch (gweld a dangos) gwerth rhywun arall respect