Cerdd - Aberfan

Rhifyn 10 - Dan y ddaear
Cerdd - Aberfan

Aberfan

e2_0.jpg

Dim ond un llais sydd yn y cwm 

A'r llais hwnnw

Yw llais y glaw

Yn curo'n drwm.

 

Dim ond un llaw sydd yn y cwm

A'r llaw honno

Yw llaw'r mynydd

Yn gwasgu'n drwm.

 

Dim ond un lliw sydd yn cwm

A'r lliw hwnnw

Yw llwyd

Lliw tristwch, lliw llwm.

 

Dim ond un cwestiwn sydd yn y cwm

A'r cwestiwn hwnnw

Yw pam?

Ac mae'n gwestiwn rhy drwm.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
curo taro hit
drwm offeryn cerdd drum
cwm dyffryn valley
rhuo gwneud sŵn mawr, fel llew roar
trwm gwrthwyneb i 'ysgafn' heavy
creulon gwrthwyneb i 'caredig' cruel
llifo dŵr neu hylif yn symud flow
crwm wedi plygu dros rywbeth slouched
ar ddod ar fin dod, bron â dod about to come
plwm metal trwm lead