Heddiw, bydd dynion ifanc yn rhoi siocledi neu flodau i ddangos eu bod yn hoffi merch. Ond dychmygwch sut roedd hi ganrifoedd yn ôl. Doedd y siopau ddim yn gwerthu siocledi a blodau, felly roedd rhaid gwneud rhywbeth i'w rhoi i ferch. Roedd rhai dynion yn gwneud cacennau neu felysion, ond roedd rhai'n rhoi anrheg arbennig, sef llwy garu neu lwy serch.
Doedd dim ceir, beiciau modur, radio, teledu, ffilmiau na gemau cyfrifiadur ganrifoedd yn ôl. Felly, ar ôl diwrnod caled o waith, byddai dynion ifanc yn treulio oriau yn cerfio llwy i'w rhoi i ferch. Wrth gymryd y llwy, byddai'r ferch yn dangos bod ganddi ddiddordeb yn y dyn ifanc. Wedyn, byddai'r ddau'n dechrau 'canlyn'.
Nid yng Nghymru'n unig roedd hyn yn digwydd. Llwyau pren roedd pobl cefn gwlad yn eu defnyddio i fwyta, felly roedd pobl yn eu cerfio beth bynnag. Roedd y llwy'n dangos bod y dyn ifanc yn gallu bwydo ei gariadferch. Wrth greu llwy hardd, gymhleth a chain, roedd y cerfiwr yn dangos maint ei gariad at y ferch.
1667 yw dyddiad y llwy gynharaf yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Cadwodd y traddodiad i fynd tan ddiwedd y 19eg ganrif, pan symudodd llawer o bobl o'r wlad i weithio mewn chwareli a phyllau glo.
Erbyn heddiw, mae pobl yn prynu llwyau caru yn anrheg i bobl sy'n priodi. Hefyd mae twristiaid yn hoff iawn o brynu llwyau caru. Mae gemwaith llwyau caru yn boblogaidd iawn gan grefftwyr arian ac aur fel Rhiannon, Tregaron.
Calon Un galon = y ferch biau calon y dyn ifanc
Dwy galon = mae'r ddau berson yn caru ei gilydd
Olwyn / Rhaw = mae'r dyn ifanc yn barod i weithio er mwyn ei gariadferch
Allwedd, Twll y Clo, Tŷ = y ferch biau'r allwedd i galon y dyn ifanc
Angor = mae'r dyn ifanc yn dangos ei fod wedi cyrraedd y man lle mae eisiau aros, fel llong wedi cyrraedd porthladd
Clychau = mae'r cerfiwr eisiau clywed clychau'r llan (yr eglwys). Hynny yw, mae eisiau priodi'r ferch.
Dail, Blodau = mae'r ddau gariad yn mynd i dyfu gyda'i gilydd
Tarian = mae'r dyn ifanc yn barod i amddiffyn y ferch
Adar = adar serch
Diemwnt, Pedol = lwc dda
Cadwyn = ffrwythlondeb, teyrngarwch. Nifer y dolenni = nifer y plant y byddai'r cerfiwr yn hoffi eu cael
Peli Bychain mewn cawell = nifer y plant y byddai'r cerfiwr yn hoffi eu cael.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ganrifoedd yn ôl | sawl can mlynedd yn ôl | sawl can mlynedd yn ôl |
cerfio | gwneud siâp allan o bren | to carve |
canlyn | dau yn mynd allan gyda’i gilydd | to court |
traddodiadol | yn dilyn traddodiad, arfer | traditional |
porthladd | harbwr | port |
angor | darn mawr o ddur ar gadwyn, i fachu llong ar wely’r môr | anchor |
cynharaf | mwyaf cynnar | earliest |