Mae'r hen benillion rhwng 300 a 500 mlwydd oed. Roedd pobl yn eu hadrodd wrth ei gilydd a hefyd yn eu canu i gyfeiliant y delyn (penillion telyn yw'r enw arall arnyn nhw). Yn y ganrif ddiwethaf, cyhoeddodd T H Parry-Williams gasgliad mawr o ryw 750 pennill. Maen nhw'n ymdrin â themâu fel doethineb, natur, profiad, ac mae nifer fawr ar y thema serch a chariad.
Dyma rai ohonyn nhw.
1.
Dacw long yn hwylio'n hwylus
Heibio i'r trwyn ac at yr ynys,
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.
2.
Hardd yw gwên yr haul yn codi
Gyda choflaid o oleuni,
Hardd y nos yw gwenau'r lleuad,
Harddach ydyw grudd fy nghariad.
3.
Tros y môr y mae fy nghalon,
Tros y môr y mae f'ochneidion;
Tros y môr y mae f'anwylyd,
Sy'n fy meddwl i bob munud.
4.
Tra bo eglwys yn Llanelli,
A'r wennol fach yn hedeg drosti,
A thra bo gwyngalch ar ei thalcen,
Caraf i fy siriol seren.
5.
Tri pheth sydd yn anodd imi,
Cyfri'r sêr pan fo hi'n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad,
A gwybod meddwl f'annwyl gariad.
6.
Mae gennyf gariad sydd yn fychan,
Mae yn methu cyrraedd cusan,
Y mae'n gweiddi am stôl i ddringo,
Yn fy myw ni chawn un iddo.
7.
Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais;
Geiriau mwyn sydd dda dros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
coflaid | cwtsh | embrace |
grudd | gair barddonol am ‘boch’ | cheek |
ochneidion | sawl ochenaid ‘Och!’ | sighs |
hedeg | hedfan | to fly |
gwyngalch | lliw gwyn sy’n cael ei roi ar adeiladau | whitewash |
siriol | llawen, hapus | cheerful |
cwr (cyrion) | ymyl | edge |
gwadn aradr | y darn o’r aradr sy’n torri’r tir | plough sole |
geiriau mwyn | geiriau annwyl, caredig | gentle words |
y fath | geiriau o’r fath, geiriau fel hyn | such (words) |