Barddoniaeth 'Divine'

Rhifyn 17 - Bwyd
Barddoniaeth 'Divine'

eurig.pngEleni, am y tro cyntaf, roedd cyfle i gyflwyno cerddi Cymraeg yn ogystal â cherddi Saesneg i gystadleuaeth farddoniaeth cwmni siocled Divine, mewn partneriaeth â Cymorth Cristnogol.

Cyflwynwyd dros 300 o gerddi Cymraeg, rhwng y cynradd a'r uwchradd.

Y beirniad oedd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-13 ac enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd, Dinbych yn 2006.

Yr enillydd yn y categori 12-16 oed oedd Gwynfor Dafydd, Ysgol Gyfun Llanhari, gyda cherdd mewn cynghanedd gyflawn, sydd yn ôl Eurig, 'yn gamp fawr ac yn dangos y gallu i ddefnyddio'r gynghanedd i gyfleu ystyr yn effeithiol iawn.'

 

Fy Siop Siocled

Pan na fyn heulwen wenu
ar awr ddwys yr awyr ddu,
tasgwn i siopau Tesco -
clyd yw gyda'i siocled o.

Tua'r til, troi, rhaid talu
ac ymuno'n llon â'r llu.
Ond yn fy mhen, am ennyd
fe synhwyraf araf fyd:
Dan benyd o fyd di-foeth
yn helbul y gwres chwilboeth
mae gweithwyr dan gur yn gaeth
i lafur cyfalafiaeth.

Yn ein hedd a flasem ni - eu hen boen
yn y bocs siocledi
a'u huffern yn ein coffi?

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Pan na fyn pan nad yw'r haul eisiau gwenu when the sun does not shine
Dwys sobr, difrifol solemn
Penyd cosb punishment
Helbul helynt trouble
Cur poen pain
Cyfalafiaeth y gred mewn cael llawer o gyfoeth/arian capitalism