Pryd mae 'Dolig?

Rhifyn 2 - Dathlu
Pryd mae 'Dolig?

Pan aeth Mali Mai am drip siopa i Lundain yn ystod yr haf, cafodd sioc o weld addurniadau Nadolig ar werth yn y siopau yn barod. Ydy'r Nadolig yn dechrau'n rhy gynnar? Mali Mai sy'n dweud ei dweud am hyn…

'Pryd mae 'Dolig?' Geiriau fy mab bach tair oed ydy'r rheina i fod, ond ar ôl heddiw fy ngeiriau i ydyn nhw! Mae 138 o ddyddiau siopa tan y Nadolig yn ôl y calendr ond heddiw, yn Llundain dechreuais feddwl fy mod yn drysu!

Cryn dipyn o flynyddoedd yn ôl cafodd cwsmeriaid Marks and Spencers syndod o weld craceri Nadolig ar y silffoedd ym mis Hydref a chyn pen dim roedd nwyddau nadoligaidd ar werth ym mis Medi. Yn 2009 cafodd Dannii Minogue y fraint o gynnau goleuadau Nadolig siop Harrods yn Llundain ym mis Hydref a buan y dilynnodd siopau eraill ei hesiampl.

Eleni mae Selfridges a Harrods wedi agor eu siopau Nadolig yn barod. Fe arhoson nhw tan fis Awst yn 2010 ond eleni maent ar agor ddiwedd mis Gorffennaf (mewn ymateb i gais gan y cwsmeriaid - medden nhw!) Ac nid craceri'n unig maen nhw'n eu gwerthu! O na! Mae'r cyfan yna fel y gwelais â'm llygaid fy hun!

Apelio at ymwelwyr tramor

siopa_dolig_222x333.jpg

Dywed Selfridges mai un rheswm dros agor mor gynnar yw'r cynnydd o 40% yn nifer yr ymwelwyr tramor sy'n dod i'w siop yn Oxford Street ers llynedd. Mae hyn oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr cyfoethog o Tsieina a'r Dwyrain Canol. Llynedd fe werthwyd 2,000 o beli Nadoligaidd o fewn wythnos iddynt agor.

Yn yr un modd, honna Harrods bod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o Frasil, Rwsia, India a Tsieina sy'n gallu fforddio prynu eu nwyddau. Ie, dyna ddywedais i! Brasil, Rwsia, India! Tsieina!

Felly ydy'r farchnad ym Mhrydain yn anelu at ymwelwyr gan ein anghofio ni,y brodorion? Go brin. Mae manteision i rannu'r baich o dalu am nwyddau ac anrhegion Nadolig dros gyfnod ehangach i ninnau, bobl gyffredin. Mae siopau mawr wedi bod yn cynnig clybiau a systemau cynilo ar gyfer y Nadolig ers blynyddoedd maith a theuluoedd lawer wedi manteisio arnynt. Does dim drwg yn hyn oherwydd mae gwir angen i gwsmeriaid gynllunio eu gwariant yn ofalus.

Craceri corni

Yr hyn na fedra i ddygymod ag ef ydy prynu addurniadau Nadolig ar ddiwrnod chwilboeth o haf! Heb sôn am y craceri - fy nghas bethau! Gwastraff arian llwyr yn fy marn i a'r jôcs tila yn ddigon i wneud i gath grio.

'Beth fedri di alw carw mewn earmuffs? Ateb: 'Unrhyw beth. Fedr o ddim clywed!' neu 'Beth sy'n goch a gwyn, coch a gwyn, coch a gwyn?' Ateb: 'Siôn Corn yn rowlio i lawr bryn mewn eira!' Sôn am Corni! (Efallai y byddai honna yn well jôc!)

Na, mi adawa i fy siopa tan fis Rhagfyr. Mi fydd y tywydd yn oer a digon o ddewis ar ôl yn y siopau. Os arhosa i'n ddigon hwyr mi ga i bopeth am hanner pris a ha ha i chi fu'n siopa yng ngwres yr haf! Gyda llaw, ydych chi'n cofio ble roesoch chi'r pethau brynoch chi?

nadolig2.jpg

Jôcs

Beth ydy'r peth gorau i'w roi mewn twrci?
Dy ddannedd!

Beth fydd yn digwydd os bwyti di addurniadau'r goeden Nadolig?
Fe gei di dinsel-itis!

Sut aeth hi yn y parti oedd â llawer o falŵns, tân gwyllt a chracers?
Aeth gyda bang!

Beth wyt ti'n galw pobl sy'n ofni Santa Clôs?
Clôs-troffobig!

Pa garol Nadolig ydy ffefryn rhieni?
Dawel nos!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
honni dweud bod rhywbeth yn wir - yn aml heb dystiolaeth claim
brodorion pobl a gafodd eu geni yn y lle dan sylw natives
gwariant swm a gaiff ei wario expenditure