Camerâu cyflymder
Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi cael ei ddal gan gamera cyflymder? Mae'n debyg eich bod chi, gan fod dros filiwn a hanner o yrwyr yn cael eu dal bob blwyddyn.
Beth yw pwynt camerâu cyflymder?
Maen nhw'n cael eu defnyddio fel bod mwy o gyrwyr yn cadw at derfynau cyflymder. Os yw gyrwyr yn gwneud hyn, mae llai o ddamweiniau'n digwydd, ac os oes damwain, mae llai o bobl yn cael anafiadau difrifol neu'n cael eu lladd.
Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Frenhinol dros Atal Damweiniau'n rhoi'r ystadegau hyn:
Mae'n ffaith fod camerâu cyflymder wedi arwain at lai o bobl yn cael eu lladd, a llai o ddamweiniau difrifol ar y ffyrdd.
Faint o yrwyr sy'n goryrru?
Yn ôl ystadegau'r llywodraeth, mae 58% yn torri'r terfynau cyflymder ar ffyrdd 30 mya. Mae 57% yn torri'r terfyn cyflymder ar draffyrdd (70 mya).
Pwy sy'n debygol o fod yn goryrru?
Mae'r rhai sy'n debygol o fod yn goryrru'n cynnwys:
Ydy pawb o blaid camerâu cyflymder?
Mae tri chwarter y gyrwyr sy'n aelodau o'r AA (cymdeithas foduro) o blaid camerâu cyflymder. Dadl y rhai sydd yn erbyn y camerâu yw eu bod nhw'n cael eu defnyddio i wneud arian yn unig (mae dros £100 miliwn y flwyddyn yn cael ei godi o'r dirwyon). Maen nhw'n honni bod y camerâu'n cael eu rhoi mewn mannau lle nad oes damweiniau'n digwydd, ond lle mae'n anodd i yrwyr gadw at y terfynau cyflymder.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dôl/dolydd | cae/caeau | meadow |
caseg (e.b.) | ceffyl benyw | mare |
ffrwyn | y strap lledr ar ben ceffyl sy’n ei reoli wrth ei farchogaeth | bridle |
canllath | can llath (mae llath yn eithaf agos at fetr) | hundred yards |
y mymryn lleiaf | ychydig bach, bach | the slightest amount |
y tu draw | yr ochr draw | the other side |
dyheu am | eisiau’n fawr | to long for |
llamu | neidio | to jump |
pen y daith | diwedd y daith | journey’s end |