Elfyn Evans

Rhifyn 25 - Cyflym
Elfyn Evans

Elfyn Evans yw un o'r bobl gyflymaf yng Nghymru. Mae'n ralïo ac yn 2014, bydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Ralïo'r Byd.

filecard.jpg

 

Ceir yn y teulu

family.jpg

Roedd Gwyndaf Evans, tad Elfyn, yn enwog am yrru ceir ralïo ym Mhencampwriaeth y Byd WRC.

Roedd gan hen daid Elfyn garej yn Ninas Mawddwy. Nawr mae'r garej yn Nolgellau, gyda'r enw 'Gwyndaf Evans Motors'. Maen nhw'n gwerthu ceir Ford a Suzuki.

Gyrfa Elfyn

Mae Elfyn wedi bod yn ennill ralïau ers 2006. Mae wedi bod yn Bencampwr Fiesta Sporting Trophy sawl gwaith. Yn 2012, enillodd gystadleuaeth Academi WRC. Yn 2013, cafodd gyfle i gystadlu yn rhai o rowndiau pencampwriaeth WRC 2.

Ennill yng Nghymru

Pan oedd Rali Prydain Fawr yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2013, Gwyndaf enillodd gystadleuaeth WRC 2. Roedd hyn yn dipyn o gamp. Meddai Elfyn wrth wefan WRC:

"Roeddwn i'n awchu am ennill. Dwi wrth fy modd ar ôl ennill Rali Cymru. Roedd rhaid canolbwyntio a pheidio â gwneud camgymeriadau. Roedd y tywydd yn eitha da - dim niwl na llawer o law chwaith. Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl yn gwylio'r rali yn y coedwigoedd."

bodyrally.jpg

Y dyfodol i Elfyn Evans

Bydd Elfyn Evans yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Ralïo'r Byd yn 2014. Fe fydd ail yrrwr tîm M-Sport, y tu ôl i Mikko Hirvonen o'r Ffindir.

Os ydych chi'n hoffi ralïo, beth am edrych ar wefan y rhaglen Ralïo+ sydd ar S4C?

http://www.ralio.co.uk/.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
pencampwriaeth y byd prif gystadleuaeth y byd world championship
hen daid tad taid great grandfather
tipyn o gamp rhywbeth dewr neu arbennig sydd wedi’i wneud a great achievement