Faint yn gynt y gall pobl redeg?

Rhifyn 25 - Cyflym
Faint yn gynt y gall pobl redeg?

Faint yn gynt y gall pobl redeg?

Usain Bolt yn rhedeg

bodyimage1.jpg (2)

'Mellten' Usain Bolt

bodyimage2.jpg (1)

Yn ôl Mark Denny, biolegydd o Brifysgol Stanford, UDA, fydd dynion byth yn gallu rhedeg ras 100 metr yn gynt na 9.48 eiliad. Mae hyn tua 0.10 eiliad yn gynt na record byd Usain Bolt ar hyn o bryd.

Mae astudiaeth Mark Denny'n dangos bod pobl wedi bod yn rhedeg yn gynt drwy'r 1900au ond bod y cynnydd yn arafu ac y bydd yn dod i stop.

"Mae'r un peth wedi bod yn wir am anifeiliaid fel cŵn a cheffylau - y rhai rydyn ni'n ceisio eu bridio i redeg yn gynt ac yn gynt. Dyw cŵn ddim yn rhedeg yn gynt ers tua 1970. Felly, mae'n rhaid bod gan bobl derfynau hefyd."

Gallai gwyddoniaeth a thechnoleg newid pa mor gyflym mae pobl yn gallu rhedeg. Er enghraifft, gallai athletwyr gymryd hormonau i newid eu cyhyrau fel eu bod yn fwy effeithiol. Rydyn ni i gyd wedi clywed am bobl ym myd y campau sydd wedi cymryd cyffuriau i wella eu perfformiad.

"Mae'n gwestiwn cymhleth iawn," meddai Denny. "Mae pob math o bethau'n bosib er mwyn gwella perfformiad - cymryd cyffuriau, technoleg arbennig ac ati. Mae'r ffordd y mae esgidiau rhedeg yn cael eu dylunio'n gallu cael effaith, hyd yn oed."

27 Chwefror 2014

Annwyl Olygydd Campau Heddiw,

Hoffwn fynegi fy siom am yr holl dwyllo sy'n dygwydd ym myd y campau'r dyddiau hyn. Mae'n anodd credu bod unrhyw athletwr, nofiwr neu feiciwr sy'n gwbl 'lân' a heb gymryd unrhyw gyffur i wella ei berfformiad.

Rwy'n ddigon hen i gofio'r 1970au, pan oedd athletwyr o'r undeb sofietaidd a Dwyrain yr Almaen yn cymryd cyffuriau fel testosteron i wella eu perfformiad. Roedd y menywod yn edrych yn debycach i ddynion, yn gyhyrau i gyd! Roedd hi'n amlwg i bawb fod rhywbeth mawr o'i le. Ond ar y pryd, nid oedd y system brofi'n ddigon trylwyr i ddangos bod twyllo'n digwydd. Dim ond wedyn y daeth hi'n bosib profi hynny go iawn.

Mae'n rhaid bod yr un peth yn wir heddiw - hynny yw, fod pobl y campau 'un cam ar y blaen' i'r system brofi. Mae'n siŵr y bydd y samplau sy'n cael eu cymryd heddiw'n cael eu profi eto ymhen rhai blynyddoedd a byddwn ni'n gweld bod mwy o dwyllo nag rydyn ni'n ymwybodol ohono ar hyn o bryd. Mae cymaint o bwysau i ennill fel bod rhai pobl yn fodlon mentro popeth - eu hiechyd a'u henw da yn y tymor hir - er mwyn ennill clod, bri ac arian yn y tymor byr.

Yn gywir iawn,

Olwen Morris