Ras geffylau

Rhifyn 25 - Cyflym
Ras geffylau

tllewbook.jpg

Dyma ddarn allan o Y Ffordd Beryglus gan T. Llew Jones sy'n disgrifio ras geffylau ar y dolydd gleision ar lan afon Teifi, y tu allan i Lanbedr Pont Steffan.

Y ddau geffyl pwysig yn y ras yw:

       Dart - Perchennog: Syr Harri;Joci: Twm Siôn Cati

       Biwti - Perchennog: Syr Tomos, Ffynnon Bedr;Joci: Robert (mab Syr Tomos)

Roedd perchennog Dart, Syr Harri, wedi mentro can punt y byddai Twm a Dart yn ennill y ras, felly roedd cryn dipyn o bwysau arnyn nhw.

Wrth inni ymuno â'r ras, mae Biwti a Dart wedi carlamu i'r blaen.

 

Erbyn hyn nid oedd ond y ddwy gaseg yn y ras, a Biwti oedd ar y blaen, ond yr oedd Twm Siôn Cati'n marchogaeth o hydâ ffrwyn dynn. Gwyddai fod un arall o'r ceffylau wedi cwympo, a gwyddai hefyd mai'r peth hawsa'n y byd fyddai i Dart lithro ar ei throed, neu godi at y clawdd yn rhy hwyr, neu'n rhy gynnar, acfe fyddai ar ben arno yntau. Fe geisiodd fesur y pellter rhyngddo ef a chaseg Syr Tomos. A oedd mwy na chanllath rhyngddynt? Llaciodd y mymryn lleia' ar y ffrwyn.

Erbyn hyn nid oedd ond tri chlawdd ar ôl, a'r eiliad nesaf cododd un o'r rheini o'i flaen. Gwelodd Biwti'nmynd drosto fel aderyn. Yna yr oedd yntau'n codi drwy'r awyr ac yn disgyn y tu draw ar dir gwastad.

Nid oedd y gaseg ddu'n hoffi'r ffrwyn dynn. Gwyddai Twm ei bod yn dyheu am gael ei phen, ondni feiddiaiadael iddi fynd cyn cyrraedd y ddôl islaw Llanfair.

Aeth clawdd arall heibio oddi tano, a daeth y ddôl i'r golwg o'i flaen.

Rhoddodd ei phen i'r gaseg yn awr a llamodd hithau ymlaen ar ôl Biwti. Teimlodd Twm ryw ias yn mynd drwyddo wrth weld ei chyflymder. Pwysai ymlaen i dorri'r gwynt a theimlai fod y gaseg ac yntau'n un. Bron na allai dyngu fod ei galon ef a'i chalon hithau'n curo'r un pryd.

Edrychodd o'i flaen. A oeddynt yn nes at Robert a Biwti?

Oeddynt! Roedd Twm yn siŵr fod y bwlch rhyngddynt yn dechrau cau. Cariai Twm chwip yn ei law, ond nid oedd yn bwriadu ei defnyddio nes byddai rhaid.

Ond ar yr un pryd yr oedd yn dyheu am i'r gaseg fynd yn gynt eto. Fel pe bai'n gallu darllen ei feddwl, gwnaeth hithau fwy o ymdrech fyth. Yn raddol fe gaeodd y bwlch rhwng y ddau farchog, a chyn bo hir marchogai Twm wrth ysgwydd Robert Ffynnon Bedr. Yna daethant at y clawdd olaf. Aeth y ddau drosto'n llwyddiannus ond enillodd Robert beth tir serch hynny, gan fod ei gaseg ef wedi cael mwy o brofiad o neidio.

Yn awr nid oedd ond tir gwastad rhyngddynt a'r llinell. Taflodd Robert un gip dros ei ysgwydd a gwelodd fod y gaseg ddu yn y ei ymyl. Cododd ei chwip a'i defnyddio am y tro cyntaf. Ond ni wnaeth hynny ddim gwahaniaeth gan fod y gasegar ei heithafcyn hynny.

"Dart! Dart!" gwaeddodd Twm, ac o rywle casglodd y gaseg ddigon o nerth i basio Robert a Biwti. Edrychodd Robert yn syn arni'n mynd heibio, a chododd ei chwipdrachefn a thrachefn. Ond yr oedd hi wedi bod yn ras galed ac anodd, yn ddigon i ladd ceffyl cyffredin, ac yn awr, a phen y daith yn ymyl,yr oedd gwaed yn dechrau dweud. Mewn gair, yr oedd Biwti Ffynnon Bedrwedi chwythu ei phlwc.

Rywfodd neu'i gilydd gwyddai Twm Siôn Cati fod hynny'n wir. Gwyddai hefyd,cyn wired â'r pader, fod y ras wedi'i hennill. Cododd ei ben a gwelodd y dyrfa fawr o'i flaen yn chwifio'u breichiau, er na allai glywed dim o'u sŵn. Daeth y llinell yn nes ac yn nes. Un cip dros ei ysgwydd. Yr oedd Biwti'n dal ati o hyd, y creadur dewr â hi.

Yna gwelodd wyneb coch tafarnwr y Bedol yn mynd heibio a gwyddai fod y ras wedi ei hennill a chanpunt Syr Harri'n ddiogel.