Pa mor gyflym mae pobl yn tyfu?
Rydyn ni'n tyfu ar gyflymdra gwahanol yn ystod ein bywydau.
Cyfnod cario - 40 wythnos cyn cael ein geni
Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni yn y groth ac yn tyfu'n gyflym iawn.
Babandod - ar ôl cael ein geni hyd at 2 flwydd oed
Rydyn ni'n tyfu'n gyflym yn ystod y cyfnod hwn ac yn dibynnu'n llwyr ar bobl eraill i ofalu amdanon ni. Pan fyddwn ni'n cael ein geni, mae ein pen yn fawr a'n coesau'n gymharol fyr.
Plentyndod - rhwng 3 a 10 oed
Yn ystod ein plentyndod, rydyn ni'n tyfu'n gyson, o ran ein corff a'n meddwl. Rydyn ni'n dechrau dod yn annibynnol. Yn ystod ein plentyndod, mae ein corff yn tyfu'n gyflymach na'r pen.
Glaslencyndod - rhwng 11 a 17 oed
Rydyn ni'n tyfu'n gyflym iawn yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai'n mynd yn dal yn sydyn iawn. Mae ein meddwl yn datblygu'n fawr hefyd ac rydyn ni'n dod yn fwyfwy annibynnol.
Oedolaeth - rhwng 18 a 65 oed
Dydyn ni ddim yn mynd yn dalach pan fyddwn ni'n oedolion. Dyma'r cyfnod pan fyddwn ni ar ein cryfaf ac yn hollol annibynnol.
Henaint - ar ôl 65 oed
Yn raddol, wrth inni heneiddio, rydyn ni'n mynd yn fwyfwy dibynnol ar bobl eraill wrth i'r corff ddirywio.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
croth (e.b.) | lle mae’r ffoetws yn tyfu | womb |
dibynnu ar | gorfod cael pobl eraill i’n helpu | to depend on, to rely on |
annibynnol | heb fod angen neb arall i’n helpu | independent |
dibynnol | ag angen pobl eraill i’n helpu | dependent |
glaslencyndod | pan fyddwn ni’n dechrau troi’n oedolion | puberty |
yn fwyfwy | yn fwy ac yn fwy | increasingly |
heneiddio | mynd yn hen | to get older |
henaint | cyfnod pan fydd rhywun yn hen | old age |
dirywio | mynd yn waeth | to deteriorate |