Gyrfaoedd ym myd ffasiwn

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Gyrfaoedd ym myd ffasiwn

Gweithio ym myd ffasiwn

Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffasiwn? Mae llawer o swyddi y gallech chi eu gwneud.

Ffeithiau am fyd ffasiwn

  • Mae dros 150,000 o bobl yn gweithio yn y sector ffasiwn
  • Mae tua 20,000 yn defnyddio sgiliau dylunio
  • Llundain, Gogledd Orllewin Lloegr a dinas Caerlŷr yw'r prif ganolfannau

Dyma rai gyrfaoedd

Dylunio ffasiwn a thecstilau

Fel arfer, mae dylunwyr ffasiwn yn arbenigo ar un rhan o fyd ffasiwn fel dillad dynion neu ddillad plant. Rydych chi'n dylunio dillad newydd felly mae'n swydd greadigol iawn. Mae angen tua 500 dylunydd newydd bob blwyddyn - ond mae tua 4,000 o bobl yn gadael y coleg bob blwyddyn. Felly mae llawer o gystadleuaeth am y gwaith. Rydych chi'n treulio llawer o amser yn dylunio ar gyfrifiadur, ond efallai bydd cyfle i deithio dramor.

 

Masnachu ffasiwn

Mae hyn yn cynnwys arddangos dillad a chyfwisgoedd (bagiau, sgarffiau, gwregysau) yn ddeniadol er mwyn apelio at y prynwyr. Hefyd, rhaid cynllunio ffenestri siopau mawr, gwisgo'r modelau sydd yn y ffenestri, neu benderfynu lle mae'r gwahanol ddillad yn mynd yn y siop. Er enghraifft, mae mwy o ddillad yn cael eu gwerthu os ydyn nhw wedi'u gosod lle mae pobl yn cerdded drwy'r siop.

 

Prynu ffasiwn

Mae'r prynwr ffasiwn yn edrych ar y tueddiadau ffasiwn diweddaraf ac yn prynu'r dillad a'r cyfwisgoedd a fydd yn cael eu gwerthu mewn siopau. Maen nhw'n teithio i weld nwyddau mewn gwahanol ffatrïoedd ledled y byd, e.e. India, Tsieina, ac yn ceisio rhagweld beth fydd yn boblogaidd.

 

Marchnata ffasiwn

Mae rhai pobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn gwneud ymchwil i weld beth mae'r cyhoedd yn ei hoffi. Maen nhw'n defnyddio holiaduron neu'n gwneud cyfweliadau i weld beth sy'n boblogaidd. Wedyn maen nhw'n llunio graffiau, siartiau ac adroddiadau i esbonio barn pobl.

Hefyd, mae'n rhaid gweithio gyda chwmnïau a siopau i greu brand cryf a hysbysebu'r brand mewn cylchgronau, ar y radio a'r teledu ac ar y we.

 

Newyddiadura ffasiwn

Mae rhai newyddiadurwyr yn canolbwyntio ar ffasiwn. Maen nhw'n ysgrifennu erthyglau neu'n paratoi eitemau i gylchgronau ffasiwn. Yn aml iawn, byddan nhw'n cael mynd i sioeau ffasiwn er mwyn gweld y tueddiadau diweddaraf.

 

Modelu

Mae modelau ffasiwn yn ymddangos mewn cylchgronau neu mewn sioeau byw. Mae rhai modelau'n arbenigo ar faes arbennig, e.e. modelu dillad 'petite' neu ddillad 'maint +'. Mae rhai wedyn yn canolbwyntio ar ran o'r corff, e.e. dwylo, traed. Mae gwaith hefyd i fodelau anabl sy'n arddangos ffasiynau neu gynnyrch i bobl anabl. Fel arfer mae modelau'n gweithio gydag asiant i ddod o hyd i waith.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arbenigo ar dod yn arbenigwr ar rywbeth to specialise in
masnachu rhoi nwyddau’n barod i’w gwerthu merchandising
cyfwisgoedd pethau sy’n mynd gyda dillad accessories
gwregys darn (o ledr) sy’n mynd am eich canol belt
tuedd cyfeiriad, y ffordd mae pethau’n mynd trend
y cyhoedd pobl gyffredin, fel gwelwch chi ar y stryd the public
asiant person sy’n chwilio am waith dros rywun agent