1 o bob 10 plentyn yn cael cam gan ei rieni

Rhifyn 29 - Perthyn
1 o bob 10 plentyn yn cael cam gan ei rieni

Mae bron i 1 o bob 10 plentyn yn cael cam gan ei rieni, meddai'r NSPCC ond yn aml iawn dydy'r achosion ddim yn dod i'r amlwg fel mathau eraill o niweidio plant.

Mae'n gallu digwydd cyn i'r plentyn gael ei eni fel pan mae'r fam yn cymryd cyffuriau. Wedi i'r plentyn gael ei eni mae'r rhiant neu'r gofalwr yn gallu gwneud cam ag  ef trwy beidio â rhoi digon o fwyd, dillad neu gartref clyd iddo, beidio ei arbed rhag niwed corfforol neu emosiynol, beidio â rhoi digon o ofal iddo neu beidio â gwneud yn siwr ei fod yn cael sylw meddygol pan fo angen hynny arno.

nspcc.jpg

Mae'r NSPCC yn gwneud llawer i geisio rhwystro plant rhag cael cam fel

  • Darganfod achosion o blant yn cael cam
  • Cefnogi rhieni sy'n cael trafferth i fagu eu plant
  • Rhoi cymorth ymarferol i rieni plant o dan 5 oed
  • Cefnogi pobl broffesiynol i wneud penderfyniadau am blant sy'n cael cam

Mudiad arall gwerthfawr iawn yn y maes hwn ydy Childline. Dyma hanes Leanne (nid dyna ei henw iawn) a gafodd help gan Childline.

Stori Leanne

Pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd aeth pethau mor ddrwg adref nes i mi ddianc  a rhoi fy hun mewn perygl.Byddem ni yn symud tŷ o hyd ac roedd pob un mewn cyflwr gwael ac yn fudr.

Roedd fy nillad a ngwallt yn fudr. Byddai'r plant yn yr ysgol yn dweud fy mod yn drewi ac roeddwn yn cael fy mwlio trwy'r amser.

Roedd yn rhaid i fi goginio fy mwyd fy hun a glanhau'r tŷ. Roeddwn yn meddwl bod fy nhŷ yn normal nes i mi weld tai plant eraill. Doedd fy ffrindiau ddim yn fodlon dod i'm tŷ i.

Dydw i ddim yn meddwl bod mam yn gwybod sut i fod yn fam. Roedd hi wedi cael magwraeth wael ei hun. Roedd ei hwyliau yn newid o hyd ac roedd yn yfed llawer a byddai hi a'i phartner yn ymladd.

Pan oeddwn i'n fach iawn byddai'n dweud ei bod yn fy ngharu ond wrth i fi dyfu fe stopiodd ddweud hynny ac roeddwn i'n meddwl doedd hi ddim yn fy ngharu i ddim mwy.

Roeddwn i'n cael graddau da yn yr ysgol, ond rhoddais y ffidil yn y to mewn ychydig. Doedd dim pwrpas ymdrechu. Dechreuodd yr athrawon ddweud nad oeddwn yn gweithio'n ddigon caled. Fe ddylen nhw fod wedi sylweddoli bod rhywbeth o'i le ond ofynnodd neb ddim byd i mi. Collais fy hunan hyder. Roeddwn yn unig ac yn teimlo'n dda i ddim.

Doeddwn i ddim yn cysgu a doedd gen i neb i droi ato. Rhedais i ffwrdd. Roeddwn i'n eithaf aeddfed, felly, cyn gadael cartref es i swyddfa'r gwasanaeth cymdeithasol a gofyn am gael siarad gyda'r swyddog oedd ar ddyletswydd.

Fe roddon nhw arian i fi a dweud wrthyf am fynd i dŷ ffrind am y noson. Wnaethon nhw ddim gofyn i fi gysylltu'n ôl i ddweud oeddwn i'n saff.

Es i ddim i dŷ ffrind oherwydd byddai mam wedi dod o hyd i fi. A dyna lle'r oeddwn i yn 11 oed ac yn crwydro'r dref ar fy mhen fy hun yn y nos.

Wrth lwc es i giosg ffôn, gweld rhif Childline a'u ffonio. Fe ffeindion nhw le i mi aros am ychydig ddyddiau ond roedd yn rhaid i fi fynd yn ôl at mam wedyn.

Yna cefais fy rhoi mewn gofal am chwe mis ond wnaeth hynny ddim gweithio. Nôl at mam eto. Chawson ni ddim help o unman.

Rhedais i ffwrdd. Doedd Childline ddim yn gallu dod o hyd i le i mi felly fe gysgais ar y stryd. Dywedais wrthyn nhw mod i'n aros gyda ffrind. Roeddwn i'n rhewi ac yn ofnus iawn.

Yn y diwedd rhoddodd Childline fi mewn cartref maeth lle'r arhosais yn hapus ac yn ddiogel am flynyddoedd.

Byddai pethau wedi bod yn llawer gwell pe baen ni wedi cael help yn gynt. Heb Childline dydw i ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd i mi."