Cam wrth Gam, Mared Llwyd

Rhifyn 29 - Perthyn
Cam wrth Gam, Mared Llwyd
04 Medi 2014

Detholiad

Fore dydd Calan aeth yr efeilliaid, Cain a Lleu, am dro yn yr eira ar eu  beiciau newydd ond cafodd  Lleu ddamwain a chafodd niwed difrifol i'w ymennydd. Cadwodd Cain ddyddiadur i'w brawd yn yr ysbyty. Ynddo mae hi'n cyfarch ei brawd, yn adrodd ei hanes hi ei hun a'i ffrindiau ac yn cofnodi ei ddatblygiad.

O ie, cyn i mi orffen ysgrifennu am heddiw, mae un peth arall dwi eisiau sôn wrthot ti amdano ... Wnei di byth ddyfalu beth wnes i ddoe. Roedd yr ysgol yn cynnal gwasanaeth y Pasg. Fel arfer fyddwn i byth bythoedd yn gwneud unrhyw beth  mwy na sefyll yng nghefn y côr neu'r parti canu, allan o olwg pawb. Ond y tro hwn, pan ofynnodd Miss Llywelyn i fi fyddwn i'n fodlon gwneud darlleniad byr, gan fod pawb arall o Flwyddyn 6 yn gwneud, fe gytunes i! Do, wir i ti! Roeddwn i'n teimlo'n hollol sâl ac yn crynu fel jeli wrth feddwl am y peth, ond fe wyddwn fod yn rhaid i fi fod yn ddewr. Wedi'r cyfan, pan dwi'n meddwl am bopeth rwyt ti wedi'i wynebu dros y tri mis diwethaf, dwi'n sylweddoli beth yw dewrder go iawn.

Roedd dad yno'n fy ngwylio, reit yn y rhes flaen, a rhoddodd e gwtsh mawr i fi ar ôl i fi orffen. 'Dwi mor browd ohonot ti, Cain,'meddai fe'n dawel yn fy nghlust i.

Hoffwn pe baet ti a Mam wedi gallu bod yno hefyd, Lleu.

O ie, sôn am Mam .... o'r diwedd ar ôl tipyn o berswâd mae hi wedi cytuno i fynd adre am rai dyddiau ddechrau'r wythnos nesaf. Er y bydd hi'n rhyfedd iddi dy adael di fe wneith y newid fyd o les iddi. Felly, sori, Lleu, ond byddi di'n sdyc gyda dim ond Dad a fi o ddydd  Llun tan ddydd Iau!

Mae Dad wrthi'n mynd trwy rai o'r lluniau yn yr albwm gyda ti wrth i fi sgrifennu hwn. Mae e newydd ddod ar draws llun ohonon ni'n sgїo ar lethr artiffisial Llangrannog ychydig dros flwyddyn yn ôl.

'Edrych Lleu, nid eira go iawn yw e - fe aethon ni i Awstria ychydig wythnose wedyn. Ro't ti'n wych ar y sgîs, ond Cain, druan, wel ...!'

Mae dad yn dweud y gwir! Mae'n wyrth na wnes i ddim torri 'nghoes neu 'mraich yn Awstria! Ond roeddet ti fel pe baet wedi cael dy eni â phâr o sgîs yn sownd wrth dy draed di!

Mae Dad yn chwerthin wrth gofio hefyd, ond dwyt ti ddim. Rwyt ti'n syllu'n hir ar y llun, yn astudio pob modfedd ohono, heb ddweud gair.

Mae Dad yn mynd yn ei flaen, 'Fe gawson ni un o staff y llethr sgїo i dynnu'r llun ...  edrych ar dy gôt sgїo goch, lachar newydd di!

Mae  Erin, y nyrs, wedi dod i'r ystafell a chyhoeddi ei bod hi'n amser cinio. Mae Dad yn rhoi'r llun yn ôl yn yr albwm. Dwi'n meddwl ei fod e'n sylweddoli does dim pwynt dweud mwy, ddim heddiw.

Tra dwi'n dy helpu di i fwyta dy ginio, Lleu, dyma ambell ffaith fach arall i dy helpu di ddod i adnabod dy hun - y Lleu newydd - yn well.

  • Erbyn hyn rwyt ti'n llwyddo i fwydo dy hun yn fwyfwy aml, er bod dy ddwylo di'n grynedig iawn a dy gydsymud di'n araf o hyd.
  • Rwyt ti'n dechrau rhoi geiriau syml Cymraeg a Saesneg at ei gilydd wrth siarad, ond dydyn ni ddim yn siwr faint rwyt ti'n ei ddeall pan fydd rhywun yn siarad â ti.
  • O'r eirfa weddol brin sydd gyda ti ar hyn o bryd, rwyt ti'n ei chael hi'n anodd cofio geiriau. Rwyt ti hyd yn oed wedi dechrau bathu dy eiriau dy hun pan na fyddi di'n siwr o'r gair cywir! 'Trolo' yw 'cyllell', 'brot' yw 'llyfr' a 'rhagli' yw 'gorwedd'. Mae'n fy atgoffa i o Mam a Dad yn sôn am yr iaith arbennig oedd gen ti a fi pan oedden ni'n fach a dim ond ni'n dau yn ei deall!
  • Dwyt ti ddim wedi dweud gair am y ddamwain ers i ti ddeffro a does neb yn siwr ar hyn o bryd pryd fydd yr amser iawn i ddechrau dy holi.

Hwyl am y tro,

te Lleu xx

Allan o: Cam wrth Gam gan Mared Llwyd. Y Lolfa.