Tudalen Problemau

Rhifyn 29 - Perthyn
Tudalen Problemau
PROBLEM LOIS

Rydyn ni newydd gael gwybod bod gan fy chwaer fach, sy'n 9 oed, gancr. Er bod Lowri a fi'n cweryla o hyd rydyn ni'n ffrindiau go iawn. Rydw i'n teimlo fel pe bai'r llawr wedi cael ei dynnu o dan fy nhraed ac wn i ddim ble i droi. Does arna i ddim eisiau rhoi pwysau ychwanegol ar Dad a Mam oherwydd mae ganddyn nhw ddigon i boeni amdano. Rydw i'n gwybod y dylwn i fod yn gefn iddyn nhw ac i Lowri ond rydw i'n teimlo'n rhy swil i drafod y sefyllfa gyda neb. Allwch chi fy helpu?

PROBLEM BEN

Mae gan Mam broblem. Mae hi'n yfed yn drwm ac yn fy nharo. Gadawodd Dad ni ddwy flynedd yn ôl a dewisais i aros gyda Mam. Efallai y dylwn symud i Fanceinion at Dad ond does arna i ddim eisiau symud i Loegr ac rydw i'n teimlo y dylwn aros yma i ofalu am Mam. Rydw i'n poeni yn ofnadwy amdani oherwydd dydy hi ddim yn paratoi bwyd na gofalu amdani ei hun, dim ond meddwi. Sut allaf i gael help?

PROBLEM TERENCE

Pan wahanodd Dad a Mam roeddwn yn ddigon hapus yn byw gyda dad ac yn mynd at Mam bob penwythnos. Ond mae pethau wedi newid. Fe wnaeth Dad gyfarfod â Lisa a chwe mis yn ôl pan oeddwn yn 14 oed priododd hi a daeth hi a'i merch, Jennie, sy'n 11 oed i fyw aton ni. Mae'r ddwy wedi cymryd y tŷ drosodd. Mae Lisa yn ffeind wrtha i ond mae'n rhoi llawer mwy o sylw i Jennie ac yn ei difetha. Rydw i'n hollol anhapus yn fy nghartref fy hun - efallai am nad ydw i wedi arfer cael merch o gwmpas y tŷ. Ond, rydw i'n teimlo allan ohoni. Beth wna i?

PROBLEM TRACY

Ar ôl i Dad a Mam wahanu mae mam wedi mynd i actio'n wahanol. Mae hi'n gwisgo'n fwy ffasiynol ac wedi newid steil ei gwallt. Mae hi hefyd yn mynd allan gyda'r nos ac yn amlwg yn chwilio am gariad. Roedd yn well gen i hi fel roedd hi ers talwm - yn fam normal. Mae hi fel merch ifanc yn ei harddegau rwan. Am faint mae hyn yn mynd i barhau? A beth wna i pan ddaw hi â dyn i'r tŷ yma?

PROBLEM SIWAN

Mae Sadie (nid dyna ei henw iawn) a fi wedi bod yn ffrindiau da ers y diwrnod cyntaf aethon ni i'r ysgol feithrin. Ond mae hi wedi newid. Bob amser cinio mae hi'n dweud fy mod i'n rhy dew - fy mod i fel hippo. Mae hi'n dweud bod yn rhaid i fi roi'r gorau i fwyta neu fydd hi ddim yn ffrindiau gyda fi. Does neb arall yn dweud mod i'n dew ond er mwyn ei phlesio dydw i ddim yn bwyta cinio ysgol. Pan dw i'n cyrraedd adref mae mam yn methu deall pam rydw i bron â llwgu. Gyda pwy alla i siarad?

PROBLEM MEIRION

Dydw i ddim yn hoffi cyfaddef hyn ond mae gen i grysh ar fy athrawes Cemeg. Rydw i'n 14 oed ac mae hi ar ei blwyddyn gyntaf o ddysgu. Mae arna i ofn i un o fy ffrindiau sylweddoli hyn. Pan fydda i'n ei gweld hi mae nghalon i'n neidio ac mae fy nwylo'n chwysu. Rydw i'n ceisio ymddwyn yn normal ond mae'n anodd. Fedra i ddim ei chael allan o'm meddwl ddydd a nos. Ddylwn i ddweud wrthi hi?