Bwrw hen wragedd a ffyn

Rhifyn 3 - Dŵr
Bwrw hen wragedd a ffyn

frog_rain.jpgBwrw hen wragedd a ffyn … bwrw cyllyll a ffyrc - dyma ddwy idiom Gymraeg ddiddorol i ddisgrifio glaw trwm.

Mae idiom dda yn Saesneg hefyd, 'raining cats and dogs' ac os ydych chi yn Ffrainc, 'il pleut des cordes' - mae'n bwrw rhaffau … neu 'il pleut des hallebardes', sef … mae'n bwrw gwayw-fwyeill. Awtsh! Poenus iawn! Fyddwn i ddim eisiau cerdded drwy gawod drom o law yn Ffrainc!

Os ewch chi i Bortiwgal, mae'n bwrw pethau mwy rhyfedd byth yno - 'Está chovendo a barba de sapo' - mae'n bwrw barfau llyffantod. Mae rhywbeth tebyg yn digwydd yng Ngwlad Pwyl - 'Leje zabami' - mae'n bwrw brogaod!

Y rhagolygon ar gyfer y dyddiau nesaf

Tybed fyddwn ni'n gweld hen wragedd a ffyn … neu gathod a chŵn … neu raffau … neu hyd yn oed lyffantod yn syrthio o'r awyr yn ystod y dyddiau nesaf?
Dydy hyn ddim yn debygol, ond efallai y cawn ni dywydd tebyg i hyn …
   

'Bydd hi'n oer iawn a bydd eira'n disgyn dros y mynyddoedd …'

neu efallai

'Bydd gwyntoedd cryf yn dod o'r Gorllewin …'

neu o bosib

'Bydd glaw trwm yn lledu o'r gorllewin ac yn disgyn dros Gymru gyfan erbyn amser cinio a bydd hyn yn para am bythefnos o leiaf!'

Tywydd "anarferol"

Meddyliwch petaech chi'n clywed y rhagolygon yma ar y teledu heno …

'Yfory, bydd hi'n bwrw pysgod dros Bowys … bydd hi'n bwrw adar dros Wynedd a bydd hi'n bwrw losin neu fferins dros Ddwyrain Cymru. Mae'n bosib y bydd hi'n bwrw aligatoriaid dros rannau o Geredigion.'

Ydy, mae hyn i gyd yn bosib (er, efallai bod y syniad o fwrw aligatoriaid yn llai posib na'r lleill!)

eira.jpg

Y tywydd yng Nghymru

Oherwydd lleoliad Cymru, mae gwyntoedd cryf yn dod o'r gorllewin yn weddol aml, ac oherwydd bod y gwyntoedd yma'n teithio dros y môr, maen nhw'n wyntoedd gwlyb iawn ac maen nhw'n dod â llawer iawn o law i ni.

Weithiau, mae'r glaw yma'n cyfarfod â ffrynt oer o'r gogledd neu'r dwyrain ac mae hyn yn gallu creu eira.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
idiom ffordd arbennig o ddweud rhywbeth idiom
gwayw-fwyeill lluosog 'gwyaw-fwyell' - hen arf, sef darn hir o bren fel gwaywffon â llafn fel bwyell a phigyn o ddur ar y pen halberd
drom ffurf fenywaidd ‘trwm’ heavy
rhagolygon darn sy’n sôn am beth sy’n mynd i ddigwydd forecast
anarferol rhywbeth sydd ddim yn arferol unusual
aligatoriaid mwy nag un aligator alligators