Teithio o dan y dŵr

Rhifyn 3 - Dŵr
Teithio o dan y dŵr

Mae cannoedd o bobl yn teithio o Brydain i Ffrainc bob dydd.

Mae rhai pobl yn hedfan, mae pobl eraill yn mynd mewn car, mewn bws neu mewn lori neu mae rhai'n mynd ar gefn beic. Ond rhaid i'r bobl hyn groesi'r Sianel rhwng Prydain a Ffrainc - rhaid croesi'r dŵr. Rhaid mynd dros y dŵr - mewn awyren neu gwch neu ar fferi - neu o dan y dŵr, mewn trên sy'n teithio drwy dwnnel arbennig.

Y Sianel

y-sianel.jpgMae'n gwahanu De Lloegr a Gogledd Ffrainc. Mae hi tua 560 km o hyd. Mae hi tua 34 km o led rhwng Dover a Calais - y darn culaf. Mae hi'n llawer mwy llydan mewn rhannau eraill, wrth gwrs.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae rhai pobl yn nofio ar draws y Sianel hefyd - er mwyn codi arian at achosion da.

Y twneli o dan y Sianel

Er bod llawer o bobl yn sôn am 'Y twnnel' o dan y Sianel, mae tri thwnnel:

  • Mae'r trên o Loegr i Ffrainc yn rhedeg drwy un o'r twneli.
  • Mae'r trên o Ffrainc i Loegr yn rhedeg drwy dwnnel arall.
  • Mae'r trydydd twnnel rhwng y ddau dwnnel arall. Mae hwn ar gyfer y bobl sy'n gofalu am y twneli ac ar gyfer cerbydau argyfwng. Mae twneli bach yn cysylltu'r twnnel yma gyda'r ddau dwnnel arall.

tunnel-diagram3.jpg

Mae'r twneli'n hir ac yn ddwfn:

  • Maen nhw'n cysylltu Coquelles, ger Calais yn Ffrainc, a Folkestone yn Lloegr, pellter o tua 51 km.
  • Maen nhw'n rhedeg o dan y dŵr am tua 37.7 km. Dyma'r twneli hiraf yn y byd sy'n mynd o dan y môr.
  • Maen nhw tua 50 metr o dan wely'r môr.

Cafodd y twneli yma eu hagor yn 1994, felly maen nhw'n eitha newydd. Ond roedd pobl wedi bod yn cynllunio twneli o dan y Sianel am flynyddoedd cyn hyn - ac roedd un ohonyn nhw'n dod o Wrecsam.

Wrecsam a'r twneli

Pwy: William Low
Geni: 1814, Yr Alban
Marw: 1886

wm-low.jpgYr hanes:
Daeth William Low i weithio yn ardal Wrecsam yn yr 1840au ac erbyn 1847 roedd e'n byw yn yr ardal. Daeth e'n gydberchennog ar bwll glo'r Fron, yn ardal Wrecsam, yn 1850. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y trên yn dod yn boblogaidd ac roedd Low yn gweithio fel peiriannydd rheilffyrdd.

Oherwydd ei ddiddordeb mewn trenau - a'i wybodaeth am dwneli yn y pwll glo - dechreuodd Low gynllunio twnnel i fynd o dan y Sianel. Yn yr 1860au, dechreuodd e'r cwmni The Channel Tunnel Company. Er bod pobl wedi bod yn meddwl am y syniad o dwnnel am flynyddoedd, William Low oedd y person cyntaf i wneud cynlluniau realistig.

Low oedd y dyn cyntaf i geisio gwneud y twnnel hefyd. Prynodd e dir ger Dover a Calais a dechreuodd y gwaith o wneud y twnnel ger Dover yn 1870. Erbyn 1881, roedd tua 1,000 o droedfeddi o'r twnnel wedi eu gorffen ger Dover ond roedd rhaid dod â'r gwaith i ben oherwydd roedd rhai pobl yn poeni y byddai'r Ffrancod yn defnyddio'r twnnel i ymosod ar Brydain.

Mae cysylltiad arall rhwng Cymru a'r twneli yma - glowyr o Gymru oedd yn gwneud y twnnel yma.

Llun: Cofeb i William Low, yn Wrecsam

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
y Sianel y môr rhwng Prydain a Ffrainc the (English) Channel
argyfwng digwyddiad peryglus emergency
cydberchennog = cyd + perchennog - un o’r perchnogion co-owner
peiriannydd rhywun sy’n gweithio ym myd peiriannau engineer