Mwynhau o dan y dŵr

Rhifyn 3 - Dŵr
Mwynhau o dan y dŵr

keylargo3.jpgDychmygwch orwedd yn gyfforddus yn eich gwely yn y bore … ac edrych allan drwy'r ffenest … a gweld miloedd o bysgod bach a mawr o bob lliw a llun yn nofio tu allan!

Wel, dyna'r profiad byddwch chi'n ei gael os ewch chi i aros yn y gwesty o dan y môr yn Key Largo, Florida, Unol Daleithiau America. Ydy, mae'r gwesty o dan y môr a rhaid sgwba-ddeifio am 6 metr a hanner, er mwyn ei gyrraedd. Am hwyl!

Cyrraedd y gwesty

I fynd i mewn i'r gwesty, rhaid defnyddio drws arbennig yng ngwaelod y gwesty. Yna, byddwch chi'n cyrraedd yr ystafell wlyb. Dyma ble byddwch chi'n gadael y siwtiau gwlyb ac yn cael cawod gynnes cyn i chi fynd i mewn i'r gwesty ei hun.

gwestydwr.jpg

Beth sydd yn y gwesty

Hen orsaf wyddonol oedd y gwesty ar un adeg. Roedd gwyddonwyr yn ei defnyddio er mwyn dysgu am fywyd y môr.

Nid labordy sydd yno nawr. Heddiw, mae'r gwesty'n cynnwys tair prif ystafell - ystafell fawr, braf lle gallwch chi ymlacio a bwyta, yn ogystal â dwy ystafell wely gyfforddus.

Y gwesty ei hun

Y prif reswm dros fynd i'r gwesty yma, wrth gwrs, yw cael profiad o aros o dan y dŵr a mwynhau'r golygfeydd anhygoel y tu allan i'r ffenestri mawr, crwn sydd ym mhob ystafell. Ond os ydych chi eisiau adloniant arall, mae DVDs, llyfrau a cherddoriaeth ar gael. Ac os byddwch chi eisiau cysylltu â'r byd mawr uwch eich pen, mae ffôn ar eich cyfer.

Bwyd

Bydd digon o fwyd blasus yn aros amdanoch chi yn yr oergell, yn ogystal â microdon i chi ei goginio - neu mae'n bosib trefnu bod "mer-chef" yn sgwba-ddeifio i'r gwesty i baratoi pryd arbennig o fwyd blasus ar eich cyfer. Hyfryd!

Felly, os ydych chi eisiau gwyliau ymlaciol, hamddenol, gwahanol, beth amdani?

Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.jul.com/

jules_verne.jpg

O ble daeth yr enw?

Enw'r gwesty yw'r Jules Undersea Lodge. Mae wedi ei enwi ar ôl Jules Verne (1828-1905).

Pwy oedd Jules Verne?

  • Roedd e'n awdur enwog o Ffrainc.
  • Yn ôl llawer o bobl, fe oedd "tad" ffuglen wyddonol.
  • Roedd ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth a daearyddiaeth ac ysgrifennodd nifer o lyfrau sy'n cyfuno'r diddordebau yma.
  • Roedd e'n ysgrifennu am deithio drwy'r gofod ac o dan y môr.

Dyma rai o'i lyfrau. Os nad ydych chi wedi eu darllen nhw, efallai eich bod chi wedi gweld ffilmiau ohonyn nhw:

  • 20,000 Leagues Under the Sea, Rhan 1 (1870)
  • 20,000 Leagues Under the Sea, Rhan 2 (1870)
  • A Journey to the Interior of the Earth (1864)
  • Around the World in 80 Days (1873)
  • The Underground City (1877)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
o bob lliw a llun o bob lliw a phob siâp of all shapes and colours
ffuglen wyddonol straeon ar destunau ‘gwyddonol’ fel y gofod, bodau o fydoedd gwahanol ac ati science fiction
cyfuno dod â’r ddau beth at ei gilydd to combine