Map-01.jpg

Pentref bach ar lan y môr ger Pwllheli yng Ngwynedd ydy Nant Gwrtheyrn. Hyd at 1950au roedd yn bentref bywiog gydag ysgol a chapel. Ond wedi i’r chwarel gau roedd yn rhaid i’r dynion symud i ffwrdd i chwilio am waith. Roedd hi hefyd yn anodd iawn mynd yno gan fod y ffordd yn serth a throellog. Symudodd pob un teulu oddi yno gan adael y pentref yn hollol wag.

Ond yn 1982 cafodd y pentref ei ail adeiladu fel Canolfan Iaith. Bydd llawer iawn o oedolion yn mynd yno ar gyrsiau i ddysgu Cymraeg. Mae hefyd yn lle poblogaidd i gynnal priodasau.

Mae un chwedl enwog am y pentref. Roedd Rhys a Meinir yn mynd i briodi ac yn ôl hen draddodiad yn Nant Gwrtheyrn aeth Meinir i guddio ar fore ei phriodas tra’r aeth pawb arall i’r eglwys.

Yn ôl yr arfer aeth ffrindiau Rhys i chwilio am Meinir, ond chawson nhw ddim hyd iddi.

 alt=

Ar ôl deall bod Meinir ar goll, aeth Rhys i chwilio amdani ond heb lwc. Ymhen misoedd wedyn pan oedd Rhys yn cysgodi dan ei hoff dderwen cafodd y goeden ei hollti yn ei hanner gan fellten.

Ac yno, yng nghanol y boncyff gwag, roedd sgerbwd mewn ffrog briodas! Yr oedd hyn yn ormod i Rhys druan. Cafodd drawiad ar y galon a bu farw wrth ymyl Meinir.

Maent yn dweud bod ymwelwyr wedi gweld dau ysbryd yn cerdded law yn llaw ar hyd y traeth – dyn gyda barf a gwallt hir a merch gyda thyllau gwag yn lle llygaid.

Loading the player...