Rhifyn 34 - Nid aur yw popeth melyn

Dychmygwch: mae ffrind i chi’n rhoi cacen hardd i chi sy’n edrych “O, mor flasus!” Rydych chi’n bwyta darn ohoni, yn barod i flasu rhywbeth bendigedig – ond, yn sydyn, rydych chi’n ei phoeri allan, gan beswch a pheswch. Pam? Oherwydd mae’ch ffrind chi wedi defnyddio halen wrth wneud y gacen yn lle siwgr! Mae’r gacen yn edrych yn flasus, ond dydy hi ddim! Nid aur yw popeth melyn, felly – yn enwedig ar Ddydd Ffŵl Ebrill!

change level
change level
change level