Yn 1957, roedd adroddiad arbennig ar y rhaglen Panorama ar y BBC.

 

Yn ôl yr adroddiad, roedd teulu yn y Swistir yn tyfu sbageti ar goed. Roedd y rhaglen yn dangos merched yn tynnu’r sbageti o’r coed ac yn eu gosod nhw ar y ddaear yn ofalus i sychu.

 

Roedd cymaint o ddiddordeb yn y stori fel bod llawer o wylwyr wedi ysgrifennu at y BBC i ofyn am gyngor ynglŷn â sut gallen nhw eu hunain dyfu coed sbageti. 

 

Beth oedd dyddiad y rhaglen? Ebrill y cyntaf 1957.

 

Ie, jôc Ffŵl Ebrill oedd y stori ac roedd hi’n jôc dda gan fod miloedd o bobl wedi ei chredu hi. [Rhaid cofio nad oedd pobl ym Mhrydain mor gyfarwydd â bwyta pasta yr adeg honno.]

 

 

Allwch chi ddim credu popeth rydych chi’n ei ddarllen neu’n ei weld ar y teledu. Ond beth am yr eitemau yma o newyddion? Ydyn nhw’n wir neu ydyn nhw’n ffug?

 

Cliw: Mae dwy o’r straeon yn wir ond mae un yn ffug – ond pa un?

 

 

Drilio yn y gofod

Mae Lwcsembwrg yn bwriadu drilio  ar asteroidau er mwyn dod o hyd i fetelau fel platinwm.

 

Mae tua 13,500 o asteroidau wedi’u darganfod yn agos i’r Ddaear a byddai drilio i mewn iddyn nhw’n ffordd dda o sicrhau bod digon o fetel yn cael ei gynhyrchu ar ein cyfer ni ar y Ddaear.

 

“Mae’n bosib y byddai drilio i mewn i asteroid am blatinwm yn rhoi mwy o’r metel yma i ni nag rydyn ni erioed wedi ei gael o’r blaen,” meddai llefarydd ar ran y prosiect.

asteroid-earth-smaller.jpg

Pot iogwrt i bobl lawchwith

Os edrychwch chi ar y we, mae dewis helaeth o offer cegin ar gyfer pobl lawchwith a phobl lawdde, e.e. cyllyll arbennig, sisyrnau arbennig, agorwyr tuniau arbennig, llwyau arbennig.

Tan yn ddiweddar, fodd bynnag, roedd rhai pobl lawchwith yn teimlo bod bwyta iogwrt yn gallu bod yn broblem. “Mae’r potiau wedi cael eu creu ar gyfer pobl lawdde,” meddai Charles Lewis o gymdeithas Gwella Ansawdd Bywyd Pobl Lawchwith.

Felly, mae cwmni Food-pots-for-all wedi creu potiau iogwrt sy’n arbennig ar gyfer pobl lawchwith. “Mae clust fel clust cwpan ar ochr dde’r pot,” dywedodd llefarydd ar ran y cwmni, “ac felly mae’n hawdd dal y pot yn y llaw dde a defnyddio llwy yn y llaw chwith.”

Mae’r potiau i’w cael mewn amrywiaeth o liwiau a phatrymau modern.

yoghurt-pots-smaller.jpg

Rownd … a rownd … a rownd!

“Gardd hyfryd yng nghanol môr o darmac,” dyna un disgrifiad o gylchfan, yn ôl y Gymdeithas Gwerthfawrogi Cylchfannau.

Oes, mae cymdeithas wedi cael ei chreu i ganmol ac i werthfawrogi cylchfannau. Pam?

Achos mae cylchfannau’n wych ar gyfer  rheoli traffig ond hefyd maen nhw’n gwneud gwaith pwysig iawn yn gwarchod yr amgylchedd. Gan fod gerddi bach wedi’u plannu ar rai ohonyn nhw, maen nhw’n gartref gwych i anifeiliaid a bywyd gwyllt.

“Ble bydden ni heb gylchfannau?” gofynnodd un aelod o’r gymdeithas!

roundabout-smaller.jpg