ANTHONY WALKER

Ar 29 Gorffennaf 2005, roedd Anthony Walker, a’i gefnder, Marcus Binns, yn aros am fws gyda chariad Anthony, Louise Thompson, pan ddechreuodd dyn ddweud pethau hiliol wrthynt.

 

Aeth y tri allan o'r arhosfan fysiau yn Huyton, Glannau Mersi, a dechrau cerdded i arhosfan fysiau arall er mwyn dianc rhag y dyn. Wrth iddynt ddechrau cerdded drwy Barc McGoldrick  ymosododd y dyn yma, a dyn arall, arnynt.

 

Dihangodd Marcus a Louise a rhedeg i nôl help ond lladdwyd Anthony gan yr ymosodwyr gyda chaib eira.

 

Cafodd y dynion eu cyhuddo o lofruddio Anthony. Dedfrydwyd Michael Barton i leiafswm o 17 mlynedd ac 8 mis a dedfrydwyd Paul Taylor i leiafswm o 23 mlynedd ac 8 mis. Wrth

ddedfrydu'r pâr, dywedodd Mr Justice Leveson bod y dynion wedi cyflawni “ymosodiad hiliol fyddai'n gwenwyno unrhyw gymdeithas wâr”.

Ers hynny, mae teulu Anthony Walker wedi sefydlu Sefydliad Anthony Walker gyda'r bwriad o godi arian ar gyfer prosiectau i hybu cytgord hiliol, integreiddiad a gwella dealltwriaeth. Mae'r Sefydliad yn trefnu nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys cinio gala a Gŵyl Sefydliad Anthony Walker. Pwrpas y gweithgareddau yma yw dod â phobl o wahanol gefndiroedd ynghyd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau celfyddydol neu addysgol sy'n annog pobl i werthfawrogi'r gwahaniaethau rhyngom.

 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sefydlu Cynllun Ysgoloriaeth Cyfraith Anthony Walker. Mae hwn yn cynnig lle i gyfreithiwr dan hyfforddiant o gefndir du neu ethnigrwydd lleiafrifol arall gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron Glannau Mersi bob blwyddyn. Roedd Anthony wedi gobeithio astudio'r gyfraith a gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol.

Cyfwelydd

Yn ôl pob sôn, roedd Anthony yn fachgen aeddfed iawn.

Gee

Oedd. Roedd o’n cymryd pethau o ddifrif ac roedd o’n gwybod yn union beth roedd o eisiau ei wneud, sef bod yn gyfreithiwr. Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw beth wedi'i atal rhag gwneud hynny. Roedd o eisiau bod yn farnwr hefyd, oherwydd roedd o wedi gweld barnwyr du yn America ac wedi dweud, ‘Dyna fydda i’.

 

Roedd o wrth ei fodd gyda phêl-fasged. Yn ein tŷ ni mae mwyafrif y lluniau mewn fframiau heb wydr ynddyn nhw, oherwydd byddai'n bownsio pêl yn y tŷ. Roedd o’n gwybod nad oedd o i fod i wneud hynny, ond fedrai o ddim peidio!

 

Roedd o’n aelod ffyddlon o’r eglwys. Roedd o’n berson duwiol ac roedd o’n cymryd ei ffydd o ddifrif. Cafodd o dreialon ar gyfer timau pêl-fasged Lerpwl a Lloegr, ond am fod y treialon ar ddydd Sul, roedd rhaid iddo fo ddewis rhwng yr eglwys a phêl-fasged. Dw i’n cofio ei fod o’n llawn cyffro un diwrnod am ei fod o wedi cael treialon i dîm Lloegr, ond yna sylweddolodd o eu bod nhw ar ddydd Sul a dewisodd o beidio â mynd.

Cyfwelydd

Pam dylwn i ddioddef dedfryd am oes? Casineb laddodd fy mab, felly pam ddylwn i ddioddef casineb hefyd? Mae diffyg maddeuant yn eich gwneud chi’n ddioddefwr a pham dylwn i fod yn ddioddefwr? Treuliodd Anthony ei fywyd yn maddau. Roedd ei fywyd o’n symbol o heddwch, cariad a maddeuant a dyma sut cafodd fy mhlant eu magu. Mae'n rhaid i mi fyw yn y ffordd dysgais i iddyn nhw fyw. Dydw i ddim yn teimlo’n chwerw tuag at y bobl yma, dw i’n hollol onest. Y cwbl dw i’n ei deimlo ydy… tristwch dros y teulu.

Cyfwelydd

Dominique, fel chwaer i Anthony, wyt ti hefyd yn teimlo felly?

Dominique

Ydw, dw i’n maddau iddyn nhw ac mae gen i biti drostyn nhw oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod beth roedden nhw'n ei wneud.

Gee

Mae hi’n dal yn anodd derbyn marwolaeth Anthony. Bob dydd rydyn ni’n gofyn, lle mae ein bachgen? Bob dydd rydyn ni’n dal i aros. Rydyn ni’n galw ei enw fo, rydyn ni’n clywed pêl yn bownsio ac mae pob un ohonon ni’n gwylio ac yn aros.

Cyfwelydd

Mae’n anodd iawn i chi, fel ei fam, Mrs Walker.

Mrs Walker

Dw i'n teimlo'n drist dros Daniel, fy mab arall, yn dringo i'r gwely bync uchaf bob nos a dydy ei frawd ddim yno. Mae o'n gysgod o'r hyn oedd o'r blaen. Fydd pethau byth yr un fath i neb ohonon ni.

Cliciwch yma i wylio “Show racism the red card. Anti racism educational DVD”.

(https://www.youtube.com/watch?v=VUOOzO5e2qc)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwâr gwareiddiedig civilised