Dr Angharad Puw Davies

Rhifyn 4 - Salwch
Dr Angharad Puw Davies

bacteria2.jpgMicrobiolegydd yw Dr. Angharad Puw Davies, sy'n dod o'r Wyddgrug yn wreiddiol. Mae hi'n arbenigo mewn micro-organebau fel bacteria a firysau. Mae hi'n gweithio fel Ymgynghorydd mewn Microbioleg yn Ysbyty Singleton, Abertawe ac fel Uwch-ddarlithydd mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth sy'n digwydd mewn labordy microbioleg yn yr ysbyty?

Mae samplau'n dod i mewn gan bobl sy'n sâl, er enghraifft gwaed neu'r hylif sydd o gwmpas yr ymennydd. Rydyn ni'n gwneud profion arnyn nhw i chwilio am heintiau. Rydyn ni'n gallu defnyddio gwahanol brofion fel tyfu bacteria, edrych drwy ficrosgop, neu wneud profion molecwlar.

Beth fyddwch chi'n ei wneud â'r wybodaeth?

bacteria3.jpgPan fyddwn ni wedi penderfynu beth yw'r bacteria neu'r firws sy'n gwneud i'r person fod yn sâl, rydyn ni'n rhoi'r canlyniadau i'r meddygon ac yn rhoi cyngor iddyn nhw, er enghraifft, pa wrthfiotig y dylen nhw ei ddefnyddio i drin y claf. Weithiau byddwn ni'n mynd i weld y claf i helpu'r meddygon i benderfynu ar y driniaeth orau.

Ydy'r profion yn y labordy'n cymryd llawer o amser?

Rydyn ni'n tyfu bacteria dros nos mewn dysglau Petri ac wedyn yn gwneud profion i weld pa wrthfiotig yw'r un gorau i'w trin. Mae'r broses o dyfu a gwneud profion yn cymryd dau ddiwrnod, fel arfer. Mae profion molecwlar yn llawer cyflymach oherwydd rydyn ni'n chwilio am broteinau unigryw neu ddarnau o DNA unigryw i adnabod y bacteria. O dan y microsgop, rydyn ni'n medru gweld rhai pethau'n syth.

Mae llawer o sôn am superbugs yn y cyfryngau. Beth ydyn nhw?

Bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yw superbugs. Oherwydd ein bod ni'n defnyddio gwrthfiotigau i drin bacteria, mae'r bacteria wedi esblygu a newid fel nad yw'r gwrthfiotig yn cael effaith arnyn nhw.

Y broblem yw, does dim gwrthfiotigau newydd yn cael eu datblygu achos dydy'r cwmnïau cyffuriau mawr ddim yn gallu gwneud arian ohonyn nhw. Mae'r cwmnïau hyn yn hoffi datblygu cyffuriau y mae'n rhaid i gleifion eu cymryd am fisoedd neu flynyddoedd (fel cyffuriau at bwysedd gwaed, er enghraifft, y mae'r claf yn eu cymryd weddill ei oes), nid gwrthfiotigau y mae pobl yn eu cymryd am wythnos neu bythefnos yn unig. Erbyn hyn, ar y cyfan, dim ond pobol fel academyddion mewn prifysgolion sy'n gweithio i ddatblygu gwrthfiotigau newydd. Felly, rydyn ni'n cyrraedd sefyllfa lle na fydd gwrthfiotigau ar gael i drin rhai bacteria.

Beth yw'r cyngor i ni er mwyn osgoi dal heintiau?

Gall germau fod yn llechu ar fysellfwrdd cyfrifiadur.

bacteria4.jpgY prif beth yw golchi eich dwylo. Dyna'r peth mwyaf pwysig i osgoi dal annwyd neu'r ffliw. Mae germau ar bethau rydyn ni'n cyffwrdd â nhw neu'n cydio ynddyn nhw bob dydd fel dolenni drysau, bysellfwrdd cyfrifiadur a'r ffôn, felly os ydyn ni'n golchi ein dwylo'n drylwyr, rydyn ni'n gallu cael gwared ar y germau.

Yn ail, dylech chi fod yn siwr bod bwydydd amrwd wedi'u coginio'n iawn, a pheidio â bwyta bwyd sydd wedi bod yn sefyll allan o'r oergell yn rhy hir.

Hefyd, gofalwch eich bod chi wedi cael eich imiwneiddio yn erbyn heintiau. Rydyn ni wedi llwyddo i gael gwared ar lawer iawn o heintiau mewn plant drwy imiwneiddio. Pan oedd ein neiniau a'n teidiau ni'n blant, roedd llawer o blant yn marw o heintiau fel polio a difftheria, ond dydy hynny ddim yn digwydd erbyn hyn, oherwydd imiwneiddio.

Gwrthfiotigau

Mae gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio i ladd bacteria 'drwg' sy'n gwneud i bobl fynd yn sâl. Fel arfer, mae ein system imiwnedd (celloedd gwyn y gwaed) yn gallu lladd bacteria cyn iddyn nhw achosi salwch, ond weithiau, mae angen help gwrthfiotigau.

Alexander Fleming

Penisilin oedd y gwrthfiotig cyntaf. Yr Albanwr Alexander Fleming (1881-1955) oedd yn gyfrifol am ddarganfod penisilin, yn 1928. Ar ddamwain y digwyddodd y darganfyddiad. Mae'n debyg fod labordy Fleming braidd yn anniben fel arfer, a chyn mynd ar wyliau un tro, roedd wedi gadael dysglau Petri yn llawn samplau o facteria. Pan ddaeth yn ôl o'i wyliau, sylwodd fod ffwng ar un o'r dysglau a bod hwnnw wedi atal y bacteria oedd i fod yno rhag tyfu. Ar ôl gwneud profion, gwelodd fod y ffwng (penicillium) yn cynhyrchu penisilin, y gwrthfiotig cyntaf.

fleming.jpg

Llun 1: Plac ar Ysbyty'r Santes Fair, Llundain, lle darganfu Alexander Fleming benisilin. Steve Hunnisett

Llun 2: Alexander Fleming yn derbyn y wobr Nobel gan y Brenin Gustaf V o Sweden, 1945

Mae penisilin yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw ond mae llawer o wrthfiotigau modern newydd ar gael hefyd.

Nid yw gwrthfiotigau'n gallu lladd firysau sydd fel arfer yn achosi annwyd neu wddf tost / dolur gwddf, felly dyna pam nad yw meddygon yn rhoi gwrthfiotigau i drin y rhain.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
micro-organebau pethau byw pitw bach micro-organism
ymgynghorydd person sy’n arwain tîm mewn ysbyty consultant
haint / heintiau rhywbeth sy’n achosi salwch infection
molecwlar ansoddair i ddisgrifio rhywbeth ar lefel moleciwlau molecular
gwrthfiotig(au) rhywbeth sy’n lladd bacteria antibiotic
esblygu newid evolve