Arbrofi ar Anifeiliaid

Rhifyn 4 - Salwch
Arbrofi ar Anifeiliaid

A ddylem arbrofi ar anifeiliaid i wella ein hiechyd ni?

Mae cyffuriau newydd yn cael eu datblygu o hyd i wella llawer o afiechydon mewn pobl. Ond er mwyn gwneud hynny, mae arbrofi ar anifeiliaid yn digwydd. A dweud y gwir, mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ôl cyfraith y DU. Mae'n rhaid i bob cyffur newydd gael ei brofi ar ddau fath o famal byw, ac un o'r rheini'n famal mawr sydd ddim yn llygoden.

Pam mae angen arbrofi ar anifeiliaid?

Mae'r bobl sy'n dadlau dros arbrofi ar anifeiliaid yn dweud bod rhaid gwneud yn siŵr fod cyffuriau'n saff i bobl eu cymryd nhw. Cyn i gyffuriau newydd gael eu profi ar bobl, maen nhw wedi cael eu profi ar anifeiliaid yn gyntaf. Felly, mae bywydau llawer o bobl wedi cael eu hachub.

Beth yw'r dadleuon yn erbyn?

Mudiadau hawliau anifeiliaid sy'n dadlau yn erbyn arbrofi ar anifeiliaid.

1. Mae llawer o'r anifeiliaid sy'n mynd drwy'r arbrofion yn cael eu lladd neu'n cael eu hanafu yn yr arbrawf.

2. Mae arbrofi heb ddefnyddio anifeiliaid yn bosib, ond mae gwyddonwyr yn tueddu i ddefnyddio anifeiliaid o hyd.

3. Hefyd, dydy anifeiliaid ddim yn union yr un fath â phobl, felly mae arbrofi ar  anifeiliaid yn annibynadwy.

arbrofi2.jpg

Llun: Pobl yn protestio o blaid arbrofi ar anifeiliaid.SimonWhitaker

Beth yw'r ffeithiau?

  • Tua 2.7 miliwn o arbrofion y flwyddyn
  • 80% o'r arbrofion er mwyn datblygu cyffuriau ac ymchwil 

Pa anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn arbrofion?

chart-1.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyffuriau pethau y mae moddion wedi’u gwneud ohonyn nhw drugs
arbrofi gwneud arbrawf to experiment
mudiadau hawliau anifeiliaid - animal rights movements
annibynadwy dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno unreliable
primatiaid anifeiliaid fel lemwr, tamarin a galago ('bushbaby') primates