Mae'r darn hwn yn dod o ddechrau'r nofel Smotiau, gan Bill Ridgeway.


Blwyddyn: 2075
Aberbae, Rhanbarth 1

Daeth dau ddyn i mewn i'r ystafell. Roedd gwisgoedd, menig ac esgidiau gwyn amdanyn nhw. Roedd masgiau gwyn yn cuddio eu hwynebau. Roedd tyllau llygaid llwyd yn y masgiau. Roedd piben awyr fer yn dod allan ohonyn nhw.

Roedd Morffus yn eistedd wrth ddrws. Roedd dagrau yn ei lygaid. Roedd y dynion yn cario stretsier. Gwthiodd Morffus y drws. Agorodd led y pen. Aeth y dynion i mewn.

Roedd gwely yn yr ystafell. Roedd menyw'n gorwedd arno. Roedd hi'n gwisgo gŵn. Roedd ei mynwes yn codi a disgyn yn araf. Roedd hi'n edrych fel petai hi'n cysgu. Roedd brech goch dros un o'i breichiau i gyd.

Edrychodd y dynion o gwmpas yr ystafell. Ar sil y ffenest roedd ychydig o Smotiau. Roedden nhw'n edrych fel pentwr bach o dywod du. Gwnaeth un o'r dynion yn siwr fod y ffenest ar gau. Yna crafodd y Smotiau i diwben. Rhoddodd y diwben ym mhoced ei wisg.

Pwyntiodd y dyn arall at y fenyw. Roedd rhywbeth yn digwydd iddi. Roedd ei hwyneb yn newid. Roedd y frech goch ar ei braich yn diflannu. Dechreuodd gwythiennau glas ddod i'r golwg drwy ei chroen. Aeth ei hwyneb yn glir, fel gwydr. Newidiodd ei gwallt golau yn ddarnau o wydr pigog.

Newidiodd ei llygaid glas yn wyn. Nawr roedden nhw'n edrych fel peli o rwber clir.

Roedd y dynion yn gallu gweld pen y gwely drwy ei chorff. Roedd gwythiennau'n rhedeg fel brigau o dan y croen tryloyw. Roedden nhw'n gallu gweld ei chalon, yn curo fel cysgod llwyd. Ac wrth iddyn nhw wylio, dyma'r galon yn stopio curo. Doedd y fenyw ddim yn edrych fel bod dynol bellach. Roedd hi'n edrych fel doli wydr.

Dyma'r dynion yn codi'r fenyw, ei rhoi mewn bag, a chau'r sip...

 

Bill Ridgway, cyfieithiad Elin Meek, Smotiau, Gwasg Gomer, 2005, tt.5-6

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mynwes brest chest
brech smotiau coch ar y croen rash
gwythïen gwythiennau, pibellau sy'n cario gwaed i'r galon vein(s)
bod dynol person human being