Cyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei sefydlu yn 1948, roedd pobl yn gorfod talu bob tro roedden nhw'n gweld meddyg neu nyrs. Dyma Siân Dalis-Davies (83 oed) yn cofio sut roedd hi bryd hynny.

"Ar ôl i chi gael triniaeth, roedd y doctor neu'r nyrs yn rhoi bil i chi. Os oeddech chi'n gyfoethog, roeddech chi'n talu mwy, ac os oeddech chi'n dlawd, roeddech chi'n talu llai. Ond, fyddai ein doctor ni byth yn mynd â phobl i'r llys os oedden nhw'n methu talu.

"Roedd y doctor yn berson pwysig dros ben yn y gymdeithas. Roedden ni'n byw ar fferm, ac weithiau byddai'r doctor yn cael tatws neu dwrci adeg y Nadolig.

"Un tro, dw i'n cofio fy mrawd yn rhoi ei ddwrn drwy wydr. Roedd e'n gwaedu'n ofnadwy. Doedd dim ffôn yn y ty - doedden nhw ddim yn gyffredin bryd hynny. Felly, aeth y gwas ag e ar gefn ceffyl i weld y meddyg. Fe gafodd e bwythau yn ei law.

"Pan oedd mam yn geni baban, roedd doctor a nyrs yn dod i'r tŷ. Doedd menywod ddim yn mynd i'r ysbyty i gael baban bryd hynny. Roedd mwy o driniaeth yn digwydd yn y tŷ os oeddech chi'n sâl 'slawer dydd."

Aneurin Bevan (1897-1960) a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Cafodd Aneurin Bevan ei eni yn Nhredegar. Yn 1910, pan oedd yn 13 oed, aeth i weithio yn y pwll glo. Roedd eisiau gweld pethau'n gwella i weithwyr, felly ymunodd â'r Blaid Lafur. Yn y pen draw, daeth yn Aelod Seneddol dros Lynebwy.

Yn 1948, pan oedd yn Weinidog Iechyd, cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu. Am y tro cyntaf, doedd dim rhaid i bobl dalu os oedden nhw'n gweld meddyg. Wrth gwrs, mae pobl yn talu am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy'r trethi y maen nhw'n eu talu i'r Llywodraeth.

atgofion2.jpg

Llun: Cerflun o Aneurin Bevan yn Heol y Frenhines, Caerdydd. Toban Black

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaeth iechyd sydd ar gael i bawb ym Mhrydain The National Health Service (NHS)
triniaeth (e.b.) gofal meddygol sy'n cael ei roi i glâf treatment
llys y man lle maen nhw’n penderfynu ydy pobl wedi torri’r gyfraith neu beidio court
cymdeithas (e.b.) pobl a’r ffordd maen nhw’n byw gyda’i gilydd society
dwrn llaw wedi’i chau’n dynn fist
gwaedu colli gwaed to bleed
gwas dyn sy’n cael ei dalu i weithio ar fferm manservant
pwyth(au) cylch o edau sy’n cael ei gwneud â nodwydd stitch
‘slawer dydd ers llawer dydd, ers talwm in days gone by
sefydlu dechrau rhywbeth to establish
treth(i) (e.b.) arian y mae’n rhaid i bobl ei dalu i’r Llywodraeth tax(es)
Aelod Seneddol person sy’n cynrychioli ardal yn y senedd yn San Steffan Member of Parliament