Y Frech Wen

Rhifyn 4 - Salwch
Y Frech Wen

Salwch difrifol iawn yw'r frech wen. Firws sy'n ei achosi. Dros filoedd o flynyddoedd, mae'r frech wen wedi lladd miliynau o bobl dros y byd i gyd. Yn yr ugeinfed ganrif yn unig, cafodd 300 miliwn o bobl eu lladd gan y frech wen.

frech2.jpg

Llun uchod: firws y frech wen.  

Ydy e'n heintus?

Mae'r firws yn heintus iawn. Mae'n lladd traean (un o bob tri) o'r bobl sy'n ei ddal. Mae pothelli'n dod ar y croen. Os bydd y claf yn ddigon ffodus i wella, mae'r poethelli'n gadael creithiau hyll.

frech7_663x293.jpg

Lluniau o'r chwith i'r dde: merch â'r frech wen, Bangladesh, 1973; dyn â'r frech wen, UDA, 1921; Rahima Banu, 2 oed, Bangladesh, 1975.

Y frech wen ar daith

Symudodd y firws o gwmpas y byd wrth i bobl deithio. Symudodd o'r Aifft i'r India yn ystod y mileniwm cyntaf cyn Crist. Yna, aeth ymlaen i Tsieina a Japan. Daeth y frech wen i Ewrop yn yr 11eg a'r 12fed ganrif.

Darganfyddiad Edward Jenner


Roedd pobl yn y wlad wedi gwybod nad oedd merched oedd yn godro gwartheg yn dal y frech wen, oherwydd eu bod nhw wedi cael brech y fuwch yn gyntaf. Felly, yn 1796, aeth Edward Jenner ati i brofi'r ddamcaniaeth. Aeth at un o'r merched oedd yn dioddef o frech y fuwch. Tynnodd ychydig o grawn o bothell brech y fuwch ar ei llaw. Wedyn, rhoddodd y crawn ym mraich James Phipps, bachgen wyth mlwydd oed. Ni ddaliodd y bachgen y frech wen. Roedd hyn yn profi bod brechiad o frech y fuwch yn amddiffyn pobl rhag y frech wen. Daeth Edward Jenner yn enwog oherwydd hyn.

jenner.jpg

Cartŵn o'r flwyddyn 1802 gan James Gillray yw'r prif lun ar frig y dudalen. Mae'n portreadu golygfa o Ysbyty Brechu rhag y Frech Wen yn St. Pancras, Llundain. Mae'n dangos Edward Jenner yn rhoi brechiad y frech wen i ferched ifanc ofnus, a gwartheg yn dod allan o wahanol rannau o gyrff y bobl!

Ceisio cael gwared ar y frech wen

Dechreuodd cynllun i imiwneiddio pawb yn y byd yn 1959. Os oedd pobl yn dioddef o'r ferch wen, roedden nhw'n cael eu hanfon i ysbytai rhag iddyn nhw heintio pobl eraill.

Y frech wen yng Nghymru

Mae hanner can mlynedd ers i'r frech wen daro Cymru ddiwethaf. Yn 1962, roedd dyn o Bacistan oedd yn dioddef o'r clefyd wedi teithio i Gaerdydd. Yn anffodus, daliodd 25 o bobl yr haint yng Nghwm Rhondda. Bu farw chwech ohonyn nhw. Yn yr un flwyddyn, bu farw 12 o bobl ar ôl dal y clefyd mewn ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Oherwydd hyn, cafodd 800,000 o Gymry eu brechu a diflannodd y frech wen o Gymru.

frech5.jpg

Llun: Ysbyty yn Llundain ar gyfer pobl oeddwedi dal y frech wen yn barod.

Trechu'r frech wen

Roedd yr achos olaf o'r frech wen yn 1977. Yn 1979 daeth cyhoeddiad bod y byd yn rhydd o'r frech wen. Mae rhai samplau o'r firws sy'n achosi'r clefyd yn cael eu cadw mewn labordai rhag ofn y bydd angen gwneud profion eto yn y dyfodol.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
y frech wen clefyd heintus smallpox
firws rhywbeth sy’n achosi salwch virus
creithiau marciau bach ar y croen scars
brech y fuwch salwch sy’n cael ei ddal oddi wrth wartheg cowpox
crawn hylif melyn sy’n dod o smotyn, er enghraifft pus
imiwneiddio brechu to immunize