Rydych chi’n mynd i edrych ar gyflwyniad ar Fasnach deg.

Ewch i: http://fairtradewales.com/we/resources/general-information-fact-sheets

Cliciwch ar: Cyflwyniad dwyieithog- Beth yw Masnach Deg?

A darllenwch y sleidiau Cymraeg.

Siocled Masnach Deg

Mae’r rhan fwyaf o’r coco sy’n cael ei ddefnyddio i wneud siocled yn cael ei dyfu ar ffermydd teuluol bach yng Ngorllewin Affrica. Mae’n waith anodd ac mae llawer o broblemau’n wynebu’r ffermwyr, fel plaon yn ymosod ar y cnydau, tywydd gwael yn effeithio ar y cnydau a’r ffaith bod y pris mae’r ffermwyr yn ei gael am eu cnydau’n gallu amrywio. Mae’n waith anodd am ychydig o arian. Yn wir, mae llawer o’r ffermwyr a’u teuluoedd yn byw bywyd tlawd iawn.

Mae Masnach Deg yn helpu’r teuluoedd hyn drwy dalu pris teg am y coco sy’n cael ei ddefnyddio yn eu siocled nhw. Yn ogystal, maen nhw’n rhoi tâl ychwanegol (premiwm) am bob tunnell maen nhw’n ei brynu. Mae’r ffermwyr yn gallu defnyddio’r arian hwn i wella’u busnes a’r gymuned lle maen nhw’n byw, e.e. drwy adeiladu ffynhonnau ar gyfer cael dŵr glân i’w yfed, adeiladu ysgolion a thoiledau cyhoeddus a threfnu bod clinig meddygol yn ymweld â’r pentrefi.

Mae prynu bar o siocled Divine, sef siocled Masnach Deg, a phrynu nwyddau eraill Masnach Deg, felly, yn helpu’r ffermwyr yn uniongyrchol, yn hytrach nag yn creu elw i gwmnïau mawr.

Mwy o wybodaeth:

I glywed ychydig am waith Fairtrade yn y diwydiant coco, cliciwch ar y wefan yma, lle mae plant o ysgol Gynradd Sant Padarn, Aberystwyth, yn siarad â ffermwr o Ghana: http://fairtradewales.com/we/ghana

Am fwy o wybodaeth am waith Masnach Deg yn gyffredinol, cip-ddarllenwch y wybodaeth ar: http://fairtradewales.com/we/about/what-is-fair-trade

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
plaon lluosog pla; afiechydon diseases, plagues
cnydau lluosog cnwd; cynnyrch sy'n cael ei dyfu crops
amrywio newid, e.e. mynd i fyny ac i lawr (to) vary
yn uniongyrchol yn syth directly
elw proffid; yr arian sydd dros ben ar ôl talu'r holl gostau profit