Blwyddyn naid

Rhifyn 6 - Amser
Blwyddyn naid

Mae 2012 yn flwyddyn arbennig - mae hi'n flwyddyn naid.c2_1.jpg

  • Mewn blwyddyn naid, mae diwrnod ychwanegol, 366 diwrnod yn lle 365 diwrnod.
  • Mae'r diwrnod ychwanegol ar ddiwedd mis Chwefror. Felly, yn lle 28 diwrnod, mae 29 diwrnod ym mis Chwefror mewn blwyddyn naid.
  • Mae blwyddyn naid yn digwydd bob pedair blynedd a bydd yr un nesaf yn 2016.

Pam mae eisiau blwyddyn naid?

Mae'r ddaear yn cymryd 365 diwrnod, 6 awr i fynd o gwmpas yr haul. Heb y diwrnod ychwanegol bob pedair blynedd, bydden ni'n colli chwarter diwrnod y flwyddyn. Felly, mae'r flwyddyn naid yn cywiro'r calendr.

Beth os ydych chi'n cael eich pen-blwydd ar flwyddyn naid?

Mae pobl sy'n cael eu geni ar 29 Chwefror fel arfer yn dathlu eu pen-blwydd ar 28 Chwefror neu 1 Mawrth. Mae rhai pobl yn dweud eu bod nhw chwarter yr oedran ydyn nhw - e.e. pan maen nhw'n 28 oed, maen nhw dathlu eu 7fed pen-blwydd - felly maen nhw'n dweud eu bod nhw'n 7 oed!

Y Gemau Olympaidd a'r flwyddyn naid

Mae'r Gemau Olympaidd yn digwydd mewn blwyddyn naid fel arfer.

Sut mae gweithio allan pa flwyddyn sy'n flwyddyn naid?

Os ydych chi'n gallu rhannu'r flwyddyn â 4, mae hi'n flwyddyn naid, e.e. 2004, 2008.

Traddodiadau'r flwyddyn naid

c2_2.jpg

· Gan fod blynyddoedd naid yn fwy prin na blynyddoedd arferol, mae llawer o bobl yn credu eu bod yn arwydd o lwc dda.

· Ond yn yr Alban roedd pobl yn arfer credu bod cael eich geni ar 29 Chwefror yn anlwcus iawn.

· Ym Mhrydain, mae'n draddodiad bod merched dim ond yn cael gofyn i ddynion eu priodi nhw ar 29 Chwefror!

· Yng ngwlad Groeg, does neb yn hoffi priodi mewn blwyddyn naid achos maen nhw'n meddwl ei bod hi'n anlwcus.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
blwyddyn naid blwyddyn sydd â 366 diwrnod leap year
ychwanegol rhywbeth yn fwy extra
cywiro newid camsyniadau to correct
fel arfer - usually
traddodiadau pethau mae pobl yn eu gwneud ers blynyddoedd traditions