Mae pawb yn gwybod mai yn Llundain mae Big Ben, felly beth ydy'r cysylltiad â Chymru?
Wel, y cysylltiad ydy Benjamin Hall (1802-1867). Yn y 19eg ganrif, roedd yn aelod seneddol dros Sir Fynwy ac wedyn dros Marylebone. Peiriannydd sifil oedd e, felly gwyddai sut roedd codi adeiladau a phontydd yn ddiogel. Benjamin Hall oedd y goruchwyliwr yn ystod gwaith ailadeiladu'r Senedd yn Llundain. Ef oedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod y gloch fawr 13.8 tunnell yn cael ei gosod yn iawn yn y tŵr.
Enw'r gloch ydy 'Big Ben' ac mae rhai pobl yn dweud ei bod wedi cael ei henwi ar ôl Benjamin Hall. Hwyrach am fod ei enw ar y gloch, neu efallai am ei fod e'n ddyn mawr, tal - neu'r ddau!
Ydy, mae'n debyg! Mae Tŵr y Cloc ym Mhalas San Steffan lle mae cloch Big Ben wedi'i lleoli yn gwyro tua 1/250 o'r llinell fertigol.
Yn ystod yr 20fed ganrif, cafodd maes parcio pum llawr ei adeiladu o dan y Senedd yn Llundain, a llinell Jubilee Line y system trenau tanddaearol hefyd. Ond does dim angen poeni. Mae arbenigwyr yn dweud nad rhywbeth newydd ydy'r gwyro. Maen nhw'n dweud bod tŵr Big Ben wedi symud yn fuan ar ôl cael ei adeiladu, ac nad ydy'r gwaith ar y maes parcio a'r llinell drên wedi cael effaith. Maen nhw'n cadw llygad arno, felly fydd e byth fel Tŵr Pisa - gobeithio!
Priododd Benjamin Hall ag Augusta Waddington, o Blas Llanofer yn sir Fynwy a daethon nhw'n Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer. Roedd hi hefyd yn cael ei galw'n 'Gwenynen Gwent'.
Doedd Arglwyddes Llanofer ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd diddordeb mawr ganddi mewn cerddoriaeth, dawnsio a gwisgoedd traddodiadol Cymru.
Yn y 19eg ganrif, gwnaeth Gwenynen Gwent lawer o waith i ddatblygu'r wisg Gymreig. Roedd merched Cymru wedi dechrau anghofio am y gwisgoedd, a cheisiodd hi eu hannog nhw i wisgo ei fersiwn hi o'r wisg Gymreig. Dyma'r wisg sydd ar gardiau post a rhoddion o Gymru, a'r un sydd ar werth adeg dydd Gwyl Dewi.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cysylltiad | - | connection |
peiriannydd sifil | peiriannydd sy'n dylunio ffyrdd a phontydd ac ati | civil engineer |
Senedd | - | Parliament |
goruchwyliwr | person sy’n gofalu bod popeth yn iawn | supervisor |
prawf | tystiolaeth | proof |
pendant | heb amheuaeth | definite |
gwisgoedd traddodiadol | - | traditional costumes |
datblygu | tyfu | to develop |
rhodd (eb) | anrheg | present |
gwyro | pwyso ymlaen/yn ôl | to lean |
tanddaearol | o dan y ddaear | underground |
effaith (e.b.) | newid o ganlyniad i weithred arbennig | effect |